Y Diweddaraf ynghylch Covid-19
Mae’r holl gyfarfodydd a digwyddiadau yn ôl ar y campws!
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod cyfarfodydd a digwyddiadau yn ôl ar y campws!
Yn dilyn codi’r holl ofynion cyfreithiol sy’n benodol i’r Coronafeirws yng Nghymru, mae’r Brifysgol yn mabwysiadu ymagwedd sy’n seiliedig ar risg at yr holl weithgareddau a gynhelir ar y campws.
I sicrhau ein bod yn cadw’n cymuned yn ddiogel, rydym yn gofyn i drefnwyr cyfarfodydd a digwyddiadau ddarparu’r canlynol:
- Rhaglen gydag amlinelliad o’ch cyfarfod neu eich digwyddiad.
- Asesiad risg i sicrhau bod mesurau rhesymol ar waith ar gyfer eich cyfarfod neu eich digwyddiad. Mae copi o asesiad risg y Brifysgol ar gael yma.
Mae ein Gweithdrefn Gweithredu Safonol ar gyfer digwyddiadau sy’n rhestru’r holl fesurau rhesymol mae’r Brifysgol yn eu cymryd ar gael yma.
Sut olwg sydd ar y campws?
- Mae gorsafoedd diheintio dwylo ar draws y Brifysgol gyfan.
- Bellach mae mwy o awyru, naill ai’n fecanyddol neu’n naturiol, a all arwain at anesmwythdra thermol mewn mannau ar draws y campws.
Os hoffech drefnu cyfarfod neu ddigwyddiad, cysylltwch â’r tîm drwy e-bostio events@abertawe.ac.uk neu os hoffech drefnu ymweliad â’r naill gampws neu’r llall i weld mannau sydd ar gael, cysylltwch ag aelod o’r tîm.
Yn olaf, i gael y newyddion diweddaraf o ran yr hyn a gynhelir ar y campws, dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Dilynwch ni @swanunievents ar Twitter, Facebook, LinkedIn, ac Instagram
swanunievents (@swanunievents) / Twitter
https://www.facebook.com/swanseauniversity
https://www.instagram.com/swanseauni/?hl=en
https://www.linkedin.com/company/swan-uni-events/
Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl yn fuan. Cadwch yn ddiogel
Tîm Digwyddiadau a Lletygarwch Prifysgol Abertawe.