Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

10 Syniad Creadigol ar gyfer Hyrwyddo Digwyddiad

Rydych chi’n gwybod y bydd eich digwyddiad yn wych. Mae gennych siaradwyr arbennig, y lleoliad perffaith, arlwyaeth flasus ac adloniant i syfrdanu eich gwesteion.

Yr unig beth y mae angen i chi ei wneud bellach yw sicrhau bod pobl yn dod! Dyma ein 10 syniad creadigol ar gyfer ymgyrchoedd marchnata integredig i hyrwyddo eich digwyddiad:

Byddwch yn gymdeithasol: Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn arf gwych wrth hyrwyddo eich digwyddiad – nodwyd bod 10-20% o docynnau’n cael eu gwerthu o ganlyniad i ymgyrch gref ar y cyfryngau cymdeithasol. Dyma ychydig o ffyrdd i sicrhau bod y cyfryngau cymdeithasol yn llwyddiannus ar eich cyfer:

  • Talu am hysbysebu – dyma un o’r opsiynau rhataf o ran hysbysebu sydd ar gael, os caiff ei ddefnyddio’n effeithiol
  • Crëwch hashnod ar gyfer eich digwyddiad er mwyn gweld eich digwyddiad yn ‘trendio’ – gallwch weld yr hyn sy’n cael ei ddweud am eich digwyddiad drwy ddilyn yr hashnod
  • Crëwch gystadlaethau difyr a rhyngweithiol megis “tagiwch ffrind er mwyn cael y cyfle i ennill gwobr. Caiff yr enillydd ei gyhoeddi yn y digwyddiad”
  • Ymatebwch! Os yw rhywun yn anfon neges atoch drwy’r cyfryngau cymdeithasol, sicrhewch eich bod yn ymateb iddynt. Mae pobl yn brysur ac yn hoffi cael ymatebion yn syth. Po fwyaf maen nhw’n meddwl amdanoch, y mwyaf tebygol y byddant yn dod i’ch digwyddiad.

Gwefan i’r digwyddiad: Bydd angen rhywle arnoch i bobl gofrestru i ddod i’r digwyddiad, rhywle i gyfeirio eu cwestiynau a dod o hyd i’r holl wybodaeth angenrheidiol – mae eich gwefan yn rhywle i wneud hyn. Sicrhewch ei bod yn ddiddorol ac yn hygyrch i’ch cynulleidfa (bydd hefyd yn helpu i gynyddu nifer y bobl sy’n edrych ar eich gwefan, a fydd yn helpu eich gwefan i godi yn y tablau hollbwysig hynny o ran chwiliadau).

E-bost: Mae e-bost hyd heddiw yn ffordd dda o ledaenu’r neges am ddigwyddiadau, ond sicrhewch eich bod yn ei  ddefnyddio’n gywir er mwyn bod mor effeithiol ag sy’n bosibl. Ni fydd gan bob cwsmer ddiddordeb ym mhob digwyddiad, felly mae’n bwysig rhannu eich rhestrau. Os yw eich e-byst yn berthnasol ac wedi’u targedu, bydd yn fwy tebygol y bydd y niferoedd sy’n cofrestru yn troi’n niferoedd sy’n mynychu. Ar gyfer eich e-byst o ddydd i ddydd, beth am ychwanegu pennawd bachog sy’n hyrwyddo eich digwyddiad i lofnod eich e-byst a fydd yn cynnwys dolen at eich gwefan?

Partneriaid a noddwyr: Mae pobl yn prynu gan bobl o hyd. Bydd eich busnes wedi datblygu rhwydwaith o gysylltiadau, a bydd eu rhwydwaith eu hunain gan bob un ohonynt. Pa weithgareddau y gallant eu gwneud i helpu i hyrwyddo eich digwyddiad? Mae’r cwmnïau sy’n noddi eich digwyddiad yn awyddus i ddenu pobl, felly gadewch iddynt helpu i wneud y gwaith!

Meddyliwch yn lleol: Bydd gan y rhan fwyaf o drefi a dinasoedd gyhoeddiadau lleol neu ganllawiau “Beth sy’n digwydd” ar-lein. Talwch am hysbyseb byr ac mae’n bosibl y cewch y darn wedi’i olygu’n rhad ac am ddim hefyd.

Byddwch yn greadigol, yn heriol ac yn arloesol: Un o’r pethau gorau am gynllunio digwyddiad yw manteisio ar y cyfle i fod yn greadigol a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. A allwch chi drefnu rhywbeth dros dro i hyrwyddo’r prif ddigwyddiad mewn man canolog a fydd yn creu cyffro? (Mae’r gwaith hwn yn gwneud rhyfeddodau ar gyfer eich ymgyrchoedd cymdeithasol!) Sicrhewch fod pobl yn siarad drwy adael rhai cliwiau o gwmpas y ddinas (lle caniateir) megis arwyddion dros dro, sticeri ar y llawr ac ati – mae hyn hefyd yn wych er mwyn codi ymwybyddiaeth am y brand.

Rhowch gymhelliad: Anogwch bobl i gofrestru’n gynnar drwy gynnig gostyngiad am wneud hyn, gall rhywbeth mor syml â gostwng y ffi gofrestru wir eich helpu i werthu tocynnau! Mae cynnig y cyfle i bobl gael eu cynnwys mewn cystadleuaeth wrth iddynt gofrestru hefyd yn ffordd effeithiol o ennyn diddordeb eich cynulleidfa.

Byddwch yn weledol: Fel y maen nhw’n ei ddweud; “cyfwerth llun a llith” felly yn hytrach na defnyddio geiriau, rhowch lun diddorol gyda phennawd byr a bachog, disgrifiadau alt text effeithiol neu ffeithlun pwerus a bydd y nifer sy’n cofrestru er mwyn bod yn bresennol yn codi.

Dylanwadwr cymdeithasol: Os nad oes gennych gyllideb neu brin iawn ohoni sydd ar ôl, gallwch ystyried ymgysylltu â “dylanwadwr” a fydd yn gallu helpu wrth ennyn diddordeb yn eich digwyddiad. Serch hynny, rhywbeth pwysig i’w gofio yw bod angen iddynt fod yn briodol ac yn berthnasol i’ch cynnyrch a’ch busnes – efallai y gall eich prif siaradwyr hyrwyddo’r digwyddiad drwy eu rhwydweithiau.

Meddyliwch yn thematig: A oes thema gan eich digwyddiad? Er enghraifft, a ydych chi wedi penderfynu cael cinio mawreddog â’r thema ‘y syrcas?’ Os felly, ceisiwch gael ychydig o hwyl drwy sicrhau bod eich dulliau hyrwyddo’n cyd-fynd â’ch thema, megis creu eich gwahoddiadau i ddynwared sioe mewn pabell fawr.

Bydd cyfuno rhai o’r syniadau syml hyn yn sicrhau bod pob tocyn ar gyfer eich digwyddiadau’n cael ei werthu mewn dim o amser!