Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Cynhadledd BDS 2018

Mae Adran Digwyddiadau a Lletygarwch Prifysgol Abertawe yn falch o gynnal 20fed Cynhadledd Ddwyflynyddol Cymdeithas Argaeau Prydain (BDS) ym mis Medi 2018.

Thema’r gynhadledd, a fydd yn cael ei chynnal ar Gampws y Bae o 13 tan 15 Medi 2018, fydd “Smart Dams and Reservoirs” a bydd y  papurau’n canolbwyntio ar gynnydd ymhlith y technolegau sydd ar gael neu sydd â’r potensial i fod ar gael, a lle y mae gweithredu posib cronfeydd dŵr y tu hwnt i ddiogelwch argaeau wedi’i archwilio.

Bydd Cynhadledd BDS 2018 yn profi newid o ran fformat o’i chymharu â blynyddoedd blaenorol, a bydd cynadleddwyr yn cael dewis rhwng mynychu’r ymweliadau safle neu weithdai technegol sy’n cynnwys nifer o bynciau yn ystod sesiynau’r prynhawn.

Gweinyddir cymorth rheoli digwyddiadau ar gyfer y gynhadledd gan ein tîm ymroddedig o Arbenigwyr Digwyddiadau ac mae pwyllgor y gynhadledd yn cydnabod bod gan y tîm ddealltwriaeth wirioneddol o’r lleoliad, y buddion a’r hyn sydd ei angen i sicrhau bod cynnal cynhadledd o’r fath mewn amgylchedd campws Prifysgol yn llwyddiannus.

I ddysgu sut y gall ein Harbenigwyr Digwyddiadau eich helpu i gynnal cynhadledd o’r radd flaenaf gan ddefnyddio popeth sydd gan Abertawe i’w gynnig, cliciwch yma