Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Prifysgol Abertawe i groesawu Gŵyl Wyddoniaeth Prydain

Rhwng 6 a 9 Medi 2016, bydd Prifysgol Abertawe yn croesawu Gŵyl Wyddoniaeth Prydain

Mae’r digwyddiad pedwar diwrnod ymysg  gwyliau gwyddoniaeth pwysicaf a mwyaf hirsefydlog Ewrop.  Meddai Ivvet Modinou, Pennaeth Ymgysylltu Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain:

Rydym yn falch iawn bod yr Ŵyl yn dychwelyd i Abertawe am y tro cyntaf ers 1990. Mae gan Brifysgol Abertawe Golegau Gwyddoniaeth a Pheirianneg cryf iawn, yn ogystal ag Ysgol Feddygaeth; roedd perfformiad y Brifysgol yn REF 2014 yn rhagorol, felly rydym yn edrych ymlaen at archwilio’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud yno”.

Cynhaliwyd yr Ŵyl gyntaf ym 1831 (fel cyfarfod cyntaf, ac wedyn cyfarfod blynyddol, y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Hyrwyddo Gwyddoniaeth) ac mae wedi gweld nifer o olygfeydd eiconig mewn hanes, megis y drafodaeth enwog rhwng Thomas Huxley ac Esgob Rhydychen ar ddamcaniaeth ddadleuol Darwin ynghylch esblygiad ym 1860. Yn ogystal, defnyddiwyd y term ‘gwyddonydd’ am y tro cyntaf yn un o’r cyfarfodydd ym 1834.  Cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol bedair gwaith yn Abertawe o’r blaen: 1848; 1880; 1971 a 1990.

Bydd Gŵyl 2016 yn canolbwyntio ar gynulleidfa o oedolion nad ydynt yn arbenigwyr ond sydd â diddordeb eang mewn gwyddoniaeth. Trefnir 100 o ddigwyddiadau yn arbennig gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.

Cynhelir amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, sgyrsiau a pherfformiadau ar draws pedwar diwrnod, dan arweiniad academyddion mwyaf blaenllaw Prifysgol Abertawe, yn ogystal â gwyddonwyr o fri rhyngwladol o sefydliadau eraill ledled y DU a fydd yn cyflwyno ac yn trafod gwyddoniaeth arloesol (gan gynnwys technoleg, peirianneg a’r gwyddorau cymdeithasol).

Ar ddiwedd yr Ŵyl, cynhelir digwyddiad ymylol, sef dathliad cyffrous o wyddoniaeth ar gyfer teuluoedd a grwpiau cymunedol. Cynhelir y digwyddiad ymylol dros benwythnos 10 ac 11 Medi.

Dewch yn ôl i’r wefan yn rheolaidd am yr holl newyddion diweddaraf am Ŵyl Wyddoniaeth Prydain a mwy neu cliciwch yma am ragor o wybodaeth.