Does dim angen chwilio ymhellach na Phrifysgol Abertawe
Yn ystod yr haf, mae ein dau gampws yn gallu cynnig cannoedd o amgylcheddau dysgu hyblyg, â chyfarpar o’r radd flaenaf, sydd ar gael i’w llogi gan grwpiau astudio ac ysgolion.
Mae Prifysgol Abertawe’n ddewis cyntaf trefnwyr ysgolion haf, grwpiau astudio maes a gwersylloedd astudio sy’n chwilio am amgylchedd diogel lle gall myfyrwyr ddysgu a chael hwyl, blwyddyn ar ôl blwyddyn.
Rydym yn deall yr hyn sy’n bwysig i athrawon, myfyrwyr a threfnwyr ac rydym yn cydweithio â nhw i sicrhau ein bod yn darparu popeth sy’n angenrheidiol am ymweliad llwyddiannus.
Rydym yn darparu ystafelloedd dosbarth sy’n ysbrydoli, llety fforddiadwy ar y safle yn agos iawn at yr ystafell ddosbarth, ac opsiynau arlwyo ardderchog sy’n gallu darparu ar gyfer niferoedd mawr a diwallu anghenion a dewisiadau diet amrywiol.
Cysylltwch â ni heddiw i drafod cynnal eich digwyddiad haf ym Mhrifysgol Abertawe.
Ysbrydoli. Addysgu. Archwilio.
Y Lleoliad Delfrydol i'ch Ysgol Haf