Tystiolaeth Amgylcheddol 2019 – Tystiolaeth Forol
17 – 19 Medi 2019
Am y Cyfarfod
Cynhelir y cyfarfod Tystiolaeth Amgylcheddol – Tystiolaeth Forol ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe rhwng 17 a 19 Medi 2019.
- Ymunwch â ni i drafod Strategaeth Tystiolaeth Forol Llywodraeth Cymru.
- Cyfrannwch at ddatblygu agenda ymchwil forol i Gymru.
- Dewch i glywed am fylchau yn y dystiolaeth a blaenoriaethau polisi yn uniongyrchol gan lunwyr polisi
- Rhwydweithiwch â defnyddwyr tystiolaeth, ymchwilwyr a busnesau ar draws y sectorau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.
- Datblygwch brosiectau cydweithredol a syniadau ymchwil
Diwrnod 1 – Gwydnwch a newid yn yr amgylchedd morol
- Effeithiau newid yn yr hinsawdd ac addasu
- Addasu arfordirol a rheoli’r draethlin
- Adnewyddu a chreu cynefinoedd yn yr amgylchedd morol
- Gwydnwch ecosystemau morol ac arfordirol
- Monitro ac amddiffyn bioamrywiaeth
Derbyniad gyda’r nos gyda chyflwyniadau poster yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – prosiectau ESF/ERDF yng Nghymru a dyfodol cydweithio ar draws ffiniau.
Diwrnod 2 – Defnyddio’r amgylchedd morol mewn modd cynaliadwy
- Effeithiau a’r gallu i gynnal gweithgareddau anthropogenig
- Deall y pwysau sy’n deillio o weithgareddau dosbarthu a dwysedd
- Ynni adnewyddadwy morol
- Pysgota adnewyddadwy a rheoli pysgodfeydd
- Dyframaeth
Cinio’r Gynhadledd
Diwrnod 3 – Gwerth Moroedd Cymru
- Deall ysgogwyr gweithgarwch economaidd morol ac arfordirol
- Rhoi gwerth ar wasanaethau’r ecosystem
- Cefnogi cymunedau arfordirol
- Buddion presennol a buddion posib yn y dyfodol sy’n deillio o weithgareddau morol i gymunedau arfordirol
- Treftadaeth ac adfywio
Siaradwyr a gadarnhawyd
Dr Nicola Beaumont – Labordy Morol Plymouth
- Yr Athro Mike Christie– Panel Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau Morol
- Dr Val Cummins – Coleg Prifysgol Cork
- Yr Athro Mike Elliot – Prifysgol Hull
- Chris Jenkins – Llywodraeth Cymru – Strategaeth Tystiolaeth Forol
- Dr Emma McKinley – Prifysgol Caerdydd – Rhwydwaith y Gwyddorau Cymdeithasol Morol
- Yr Athro David Thomas – Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol – Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd
Gweithdai
Cynllunio Morol Gofodol
Mae Aber Hafren yn un corff unigol o ddŵr sy’n destun dwy system gynllunio forol ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae’n cefnogi amrywiaeth eang o wasanaethau ecosystem, adnoddau naturiol a gweithgareddau dynol nad ydynt bob amser yn cyd-fynd yn hwylus â ffiniau gweinyddol dynol.
Bydd gan y sesiwn hon fformat rhyngweithiol drwy’r Her Cynllunio Morol Gofodol (MSP) a bydd yn ystyried cymhlethdodau ymarferol cynllunio aber sy’n croesi ffiniau.
Ynni Adnewyddadwy o’r Tir
Mae adnoddau naturiol Cymru yn cynnig potensial enfawr ar gyfer creu ynni gwynt, tonnau a llanwol yn ein dyfroedd. Fodd bynnag, mae amgylchedd naturiol Cymru yn werthfawr iawn ac wedi’i warchod, ac mae angen inni sicrhau y caiff ei reoli’n gynaliadwy er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.
Bydd y gweithdy hwn yn ystyried gofynion tystiolaeth er mwyn datblygu mwy o gynlluniau ynni adnewyddadwy o’r tir. Bydd hefyd yn cynnwys trafodaethau ar arwain a chyllido rhaglenni tystiolaeth strategol ar gyfer ynni adnewyddadwy morol yng Nghymru.
Y Gwyddorau Cymdeithasol Morol
Mae newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth Cymru wedi cynyddu’r angen i ddeall agweddau dynol ar ein moroedd a’n harfordir, a sicrhau y caiff y ffactorau hyn eu hystyried wrth wneud penderfyniadau, rheoli a llywodraethu.
Bydd y gweithdy hwn yn nodi heriau, yn amlygu llwybrau posib at effaith o ran rheolaeth forol gynaliadwy yng Nghymru, ac yn nodi’r camau nesaf a’r blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, drwy ofyn y cwestiynau canlynol:
- Beth yw heriau integreiddio’r gwyddorau cymdeithasol morol â sylfaen dystiolaeth forol ehangach?
- Sut y gellir defnyddio’r gwyddorau cymdeithasol morol i gefnogi SMNR, Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ac uchelgeisiau llywodraethu cysylltiedig?
- Beth ddylai’r blaenoriaethau fod ar gyfer agenda ymchwil flaengar yn y gwyddorau cymdeithasol morol yng Nghymru?
Trosolwg o’r Rhaglen
Diwrnod 1
10:00 – Cofrestru
11:00 – Croeso a Chyflwyniad i Strategaeth Tystiolaeth Forol
11:45 – Siaradwyr Gwadd
13:00 – Cinio a Rhwydweithio
14:00 – Sesiynau Paralel
16:45 – Egwyl
16:15 – Trafodaeth Banel – Gwydnwch a Newid yn yr Amgylchedd Morol
17:30 Diwedd
18:00 – Derbyniad yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Diwrnod 2
09:00 – Trafodaeth Panel – Safbwyntiau ar gasglu a rhannu tystiolaeth
10:30 – Gwersi o’r Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol, yr LCEE
11:00 – Egwyl
11:30 – Siaradwyr Gwadd
13:00 – Cinio a Rhwydweithio
14:00 – Sesiynau Paralel
16:45 – Egwyl
16:15 – Trafodaeth Banel – Defnydd Cynaliadwy o’r Amgylchedd Morol
17:30 – Diwedd
19:00 – Cinio’r Gynhadledd
Diwrnod 3
09:00 – Siaradwyr Gwadd
10:30 – Egwyl
11:00 – Sesiynau Paralel
13:00 – Cinio a Rhwydweithio
13:45 – Trafodaeth Banel – Gwerth Moroedd Cymru
15:00 – Sylwadau terfynol
15:30 – Cloi – lluniaeth ar gael.
Cofrestru
I gofrestru ar gyfer y cyfarfod Tystiolaeth Amgylcheddol – Tystiolaeth Forol, cliciwch yma.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 10 Medi 2019.
Cyfraddau
Cynadleddwr dros 3 diwrnod: £140
Cynadleddwr dros 1 diwrnod: £60
Myfyriwr dros 3 diwrnod: £50
Myfyriwr dros 1 diwrnod: £30
Cinio’r Gynhadledd: £32
Nid yw’r prisoedd yn cynnwys TAW
Cyflwyno Crynodebau
Mae cyflwyniad crynodebau nawr ar gau.
Gwirfoddolwyr
Bydd angen gwirfoddolwyr arnom i gynnal y ddesg gofrestru, helpu wrth osod ystafelloedd a gofalu am gynadleddwyr. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli dalu ffïoedd. Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio uchafswm o 6 awr dros 3 diwrnod, neu 2 awr y dydd.
Os hoffech chi wirfoddoli yn y gynhadledd, e-bostiwch sue.cody@epwales.org.uk. Pan fyddwn yn cadarnhau eich bod ar gael, byddwch yn derbyn côd gostyngiad a fydd yn eich galluogi i gofrestru am ddim.
Cysylltu â Ni
Ewch i’n tudalennau gwybodaeth i gynadleddwyr i gael gwybod rhagor am sut i gyrraedd ac am Brifysgol Abertawe.
Ar gyfer pob ymholiad am gofrestru a’r digwyddiad, e-bostiwch ni yn:sue.cody@epwales.org.uk
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Brifysgol Abertawe!