Cynadleddau
Rydym wedi bod yn cynnal cynadleddau o bob maint a ffurf ar safle hwylus ein campws yn Abertawe am ganrif bron.
Beth bynnag y bo’ch anghenion, o ystafell gyfarfod sengl, wedi’i threfnu yn arddull theatr, neu ystafell gyfarfod fawr, arddull cabare, â llawer o le o’r neilltu ar gyfer gweithdai a chyfarfodydd ymylol, gall ein Cydlynwyr Digwyddiadau weithio gyda chi i’ch helpu i ddod o hyd i’r lleoliad delfrydol ar gyfer eich cynhadledd am bris sy’n addas i’ch cyllideb.
Os oes angen trefnu cinio mawreddog neu dderbyniad diodydd a chanapés, gallwn eich helpu i’w gynllunio; a gallwn eich helpu i wella profiad eich cynadleddwyr drwy gynnig llety ar y safle (rhwng mis Gorffennaf a dechrau mis Medi) a mynediad i’n cyfleusterau o’r radd flaenaf ar y campws, gan gynnwys caffis a bariau, siopau coffi, archfarchnadoedd a chyfleusterau chwaraeon penigamp.