Lleoliad priodasau perffaith ym Mae Abertawe
Yn adeilad ein Neuadd Fawr eiconig, ar ein campws hardd yn ymyl y traeth, gallwn drefnu derbyniadau a dathliadau priodas ar gyfer 300 o westeion a mwy.
Bydd ein lleoliad unigryw ger y traeth a’n hadeilad ysblennydd ar ddechrau ehangder Bae Abertawe yn darparu’r gefnlen berffaith i’ch diwrnod arbennig. A bydd ein tîm o staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio’n agos gyda chi i’ch helpu i greu atgofion hyfryd o ddiwrnod eich priodas a fydd yn para am byth.
Mae Awditoriwm Syr Stanley Clarke â’i baneli pren mahogani tywyll, yn darparu cefnlen ddramatig ond cain i gynnal gwleddi priodas ar gyfer hyd at 300 o bobl a dathliadau nos ar gyfer cannoedd o westeion.
Wrth ymyl yr Awditoriwm ceir dau galeri llawn golau sy’n lleoliad perffaith i gynnal derbyniad diodydd cyn y wledd. Mae’r ddau galeri yn arwain at ein bar hyfryd sydd, yn ei dro, yn agor ar deras hardd sy’n cynnig golygfeydd syfrdanol ar draws Bae Abertawe.
Mae’r Neuadd Fawr yn arwain yn uniongyrchol i lawr at ein traeth preifat ein hun lle gall y pâr dedwydd a’u gwesteion fwynhau’r traeth tywodlyd hyfryd, awyr iach o’r môr a’r golygfeydd dros ehangder Bae Abertawe – mae’n gefndir perffaith i ffotograffau eich priodas!
Mae ein pecynnau priodas cynhwysfawr yn cynnig popeth y bydd ei angen ar achlysur perffaith, gan gynnwys lleiniau bwrdd a gorchuddion cadair gwyn; carped coch; bwrdd, stand a chyllell teisen; a chasgliad o fwydlenni moethus wedi’u cynllunio gan ein tîm arlwyo o’r radd flaenaf.
I gael rhagor o wybodaeth am ddathlu’ch priodas yn y Neuadd Fawr, ffoniwch nawr ar 01792 295665 neu e-bostiwch priodasau@abertawe.ac.uk.
Mae ein llyfryn ar gael i’w lawrlwytho yma.