Canolfan Taliesin
Canolfan Taliesin yw canolfan nodedig y celfyddydau Campws Parc Singleton. Drwy gydol y flwyddyn mae’n cynnig rhaglen ardderchog o ddigwyddiadau diwylliannol, ffilmiau sinema, arddangosfeydd a pherfformiadau byw, o ddawns a drama i jazz a cherddoriaeth fyd.
Nid canolfan gelfyddydau yn unig yw Taliesin. Mae’n ddelfrydol ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau hefyd. Mae’r awditoriwm pwrpasol sy’n cynnwys offer clyweledol o’r radd flaenaf a chymorth technegol, yn medru cynnal 326 o bobl, ac mae’r cyntedd apelgar, y bar a’r caffi yn berffaith ar gyfer arddangosfeydd, lluniaeth a derbyniadau.