Y Pentref Chwaraeon
Mae Pentref Chwaraeon Prifysgol Abertawe yn Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon yng Nghymru
Mae’r ganolfan o fri rhyngwladol yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n golygu ei bod yn lleoliad delfrydol i gynnal eich digwyddiad chwaraeon nesaf yng Nghymru.
Rhai o’r Cyfleusterau Dan Do yn ein Pentref Chwaraeon:
- Neuadd chwaraeon amlbwrpas
- Stiwdios ymarfer corff
- Cyrtiau sboncen, badminton, pêl-rwyd a phêl-fasged
- Ystafelloedd cyfarfod
- Canolfan Hyfforddi dan do â thrac rhedeg 60m â 6 lôn; pwll neidio naid hir a naid driphlyg; naid uchel; naid polyn; caets taflu a rhwyd gwaywffon ac ystafelloedd newid.
- Pwll Cenedlaethol Cymru
Rhai o Gyfleusterau Awyr Agored y Pentref Chwaraeon:
- Trac Athletau Rhyngwladol Dosbarth A gyda phyllau naid polyn a naid uchel; pyllau naid hir a naid driphlyg; mannau a chaets taflu; eisteddle â 400 o seddau i wylwyr a system annerch y cyhoedd.
- Chwe chwrt tennis pob tywydd
- Meysydd chwarae o safon ryngwladol
- Dau gae Astroturf dyfrsail o neilon wedi’i wau ar gyfer pob tywydd