Tŷ Fulton
Yng nghanol ein campws saif Tŷ Fulton sy’n adeilad rhestredig Gradd II.
Ffreutur Tŷ Fulton yw’r man mwyaf sylweddol â llawr gwastad ar Gampws Parc Singleton ac mae ganddi deras hyfryd â golygfeydd godidog dros Fae Abertawe. Mae’n lle delfrydol i gynnal cinio mawreddog, derbyniadau ac achlysuron o bob math.
Mae Tŷ Fulton hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o leoedd ategol ar gyfer digwyddiadau a chynadleddau ac ystafelloedd cyfarfod y gellir eu defnyddio at unrhyw ddiben, o weithdai a seminarau i arddangosfeydd llai, arddangos posteri a derbyniadau.