Campws Parc Singleton
Ar Gampws Parc Singleton ceir dros 100 lleoliad amlddefnydd ar gyfer eich digwyddiad.
O ddarlithfeydd wedi’u cyfarparu’n dda i fannau mawr â llawr gwastad, gallwn ddarparu ar gyfer digwyddiadau o bob maint a ffurf. Mae ein holl ystafelloedd yn cynnwys cyfleusterau clyweledol o’r radd flaenaf ac WIFI heb unrhyw gost ychwanegol. Rydym yn cynnig cyfleusterau TG a chynadledda fideo o’r safon uchaf, gan gynnwys ystod o ystafelloedd hyfforddiant TG wedi’u cyfarparu’n llawn.
Edrychwch ar rai o’n lleoliadau mwyaf poblogaidd ar Gampws Parc Singleton y mae pob un ar gael i archebu y tu allan i amserau addysgu arferol: