Y Neuadd Fawr
Y Neuadd Fawr yw ein hadeilad eiconig ar Gampws y Bae
Y prif leoliad yn adeilad trawiadol y Neuadd Fawr yw’r awditoriwm ysblennydd â’i 700 o seddau, llwyfan hyblyg ac acwsteg o safon ryngwladol; hwn yw’r lleoliad perffaith yn ne Cymru i gynnal perfformiadau neu gynadleddau a digwyddiadau sylweddol. Gellir tynnu rhai o seddau Awditoriwm y Neuadd Fawr yn ôl i greu llawr gwastad sylweddol sy’n berffaith ar gyfer ciniawau mawreddog ac arddangosfeydd.
Ar ochr Awditoriwm y Neuadd Fawr ceir dau galeri sy’n arwain at ardal bar hyfryd â golygfeydd godidog dros Fae Abertawe. Gellir defnyddio’r Bar a’r Galerïau ar y cyd â’r Awditoriwm neu gellir eu defnyddio’n annibynnol fel lleoliad perffaith i gynnal derbyniadau, lansiadau ac arddangosfeydd bach.
Ar y llawr o dan yr Awditoriwm, ceir nifer o ddarlithfeydd mawr ac ystafelloedd cyfarfod bach â chyfarpar clyweledol o’r radd flaenaf sy’n cynnig mannau ymneilltuo delfrydol ar gyfer digwyddiadau yn yr Awditoriwm ei hun, neu brif ystafelloedd cyfarfod ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau llai.