Diolch am danysgrifio
Diolch am gofrestru i dderbyn e-byst gan Ddigwyddiadau a Lletygarwch Prifysgol Abertawe.
P’un a ydych chi’n cynllunio cynhadledd ryngwladol flynyddol, yn cynnal confensiwn un tro neu’n hwyluso diwrnod hyfforddiant anffurfiol, bydd y lleoliad perffaith ar gyfer eich digwyddiad ar gael yn un o’r lleoedd cwrdd hyblyg â chyfarpar gwych ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae lleoliadau ar draws dau gampws prydferth; mae un ar y traeth a’r llall mewn parc, ac fel prifysgol, rydym ni yn y sefyllfa unigryw i gynnig yr ystafelloedd cwrdd diweddaraf, sy’n fodern ac sydd â’r cyfarpar a’r dechnoleg o’r radd flaenaf, yn ogystal â phensaernïaeth a swyn trawiadol.
Gydag arlwyaeth sy’n cynnig rhywbeth at ddant pawb ac ar gyfer yr holl ofynion deietegol, yn ogystal â llety ar y safle ar gael rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, Prifysgol Abertawe yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer eich cyfarfod, eich digwyddiad neu’ch cynhadledd nesaf.
Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn gallwn ni ei gynnig ar gael drwy archwilio ein: