Llety
Mae gennym ni amrywiaeth o lety campws ar draws dau gampws, ar gael rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.
Bydd yr union lety sy’n cael ei gadw yn cael ei bennu gan drefnwyr eich cynhadledd. Mae gan y ddau gampws sawl ystafell sydd wedi’u haddasu. Cysylltwch â threfnydd eich cynhadledd os oes gennych chi ofynion arbennig. Os hoffech chi drafod â ni’n uniongyrchol, e-bostiwch events@abertawe.ac.uk neu ffoniwch ni ar 01792 295665.