Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Pecyn Rheoli Digwyddiadau

Mae gan bob digwyddiad Swyddog Digwyddiadau penodol, gan sicrhau y bydd anghenion eich digwyddiad yn cael eu bodloni. Rydym yn ymrwymedig i ragoriaeth gwasanaeth cwsmeriaid, gan ddarparu cymorth heb ei ail cyn y digwyddiad ac ar ei ôl.

Mae ein tîm o weithwyr proffesiynol profiadol yn meddu ar ddegawdau o wybodaeth yn y diwydiant digwyddiadau. Rydym yn deall digwyddiadau, rydym yn gwybod beth sy’n gwneud digwyddiad llwyddiannus; ac rydym ni yma i roi cyngor a chymorth i chi i wneud eich digwyddiad yn llwyddiant.

Chwilio am gymorth dwysach ar gyfer eich digwyddiad? Beth am ystyried ein pecyn Rheoli Digwyddiadau?

Gyda’n pecyn Rheoli Digwyddiadau, gall eich Swyddog Digwyddiadau ddarparu gwasanaethau ychwanegol, gan gynnwys rheoli cynadleddwyr, gwasanaethau cofrestru ar-lein a rheoli cyllideb, a bydd hynny’n gwneud proses eich digwyddiad yn haws byth.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am sut gallwn eich helpu i wireddu gweledigaeth eich digwyddiad.

"Diolch i'ch holl staff am wneud ein digwyddiad yn llwyddiant ysgubol"