Llety
Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, ar ein dau gampws hyfryd, gallwn gynnig y cyfleustra o aros ar y campws i’ch cynadleddwyr yn ein llety fforddiadwy a chyfleus ar y safle
Rydym yn cynnig tair lefel o lety en suite ar y campws i gydweddu ag amrywiaeth o gyllidebau. Mae ein pecyn llety aur (a argymhellir) yn cynnwys dillad gwely, tywelion, nwyddau ymolchi, cyfleusterau gwneud te a choffi, glanhau dyddiol ac WIFI.Rydym hefyd yn cynnig opsiynau hunanarlwyo i grwpiau ar gyllideb fwy cyfyngedig.
Os byddai’n well gennych aros oddi ar y campws, gall ein Cydlynwyr Digwyddiadau ddefnyddio eu gwybodaeth leol helaeth i’ch helpu i ddod o hyd i’r llety iawn am y pris iawn mewn gwesty neu dŷ gwely a brecwast lleol.
Aur | Arian | Efydd | |
---|---|---|---|
Dillad gwely (sy'n cael eu newid bob tri diwrnod) | ✓ | ✓ | ✕ |
Tywelion | ✓ | ✓ | ✕ |
Nwyddau Ymolchi | ✓ | ✕ | ✕ |
Cyfleusterau gwneud te a choffi | ✓ | ✕ | ✕ |
Glanhau dyddiol | Ie | Gwagir y biniau'n ddyddiol a glanheir yr ystafell bob tridiau | Gwagir y biniau'n ddyddiol a glanheir yr ystafell bob tridiau |
WIFI | ✓ | ✓ | ✓ |