Dyddiadur Swyddog Cymorth Digwyddiadau
Ymunais â’r tîm ym mis Ebrill 2023 a mynd amdani, gan gynorthwyo gydag ysgolion haf a chynllunio cynadleddau. Rwyf eisoes wedi gweithio fel Swyddog Digwyddiadau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chasgliad Wallace yn Llundain, felly roedd gen i syniad da o’r hyn i’w ddisgwyl o’n digwyddiadau yn y brifysgol.
Rwy’n talu llawer o sylw i fanylion, felly mae manylion bychain archebion a’u gofynion yn apelio’n fawr ataf. Mae hefyd yn llawer o hwyl gweld yr amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n rhan o’r rôl hon – nid oes yr un digwyddiad yn debyg i un arall. Felly mae’n ehangu eich gwybodaeth am y byd proffesiynol – rydych yn cwrdd â phobl ddiddorol iawn hefyd.
Gan fy mod yn dal i fod yn eithaf newydd i’r tîm, mae fy opsiynau’n gyfyngedig, ond rwy’n dwlu gweld y criwiau ffilmio ar y safle ac yn ffilmio cynyrchiadau amrywiol. Roeddwn yn gwneud hyn yn rheolaidd yn fy rolau blaenorol, ac un o’m rolau cyntaf ar y campws oedd cynorthwyo gyda chynhyrchiad tebyg. Roedd hi’n wych gwylio hyn ac mae’n ddiddorol iawn pan fyddwch yn gweld y ffilm orffenedig ar y sgrîn.
Drwy fod mor agos at Barc Singleton – rwy’n dwlu cerdded drwy’r coed, felly mae cael hynny y tu allan i’r swyddfa’n wych i mi. Hoffwn weithio yno pe byddai Wi-Fi da yno.
Nid wyf wedi gweld llawer o ddigwyddiadau cylchol yn y Brifysgol eto. Roedd Wythnos y Glas yn wych! Roedd hi’n hyfryd gweld cynifer o bobl yn ôl ar y campws, gyda llawer o weithgareddau a chyffro. Roeddwn yn cofio am fy Wythnos y Glas innau (hefyd ym Mhrifysgol Abertawe), felly roedd ychydig o hiraeth yn perthyn iddi hefyd.
Rwy’n credu mai’r digwyddiadau gorau yw’r rhai hynny gydag agweddau a fydd yn apelio at nifer o gynulleidfaoedd, felly byddwn yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gynnwys pynciau gwahanol (efallai pynciau na fyddent yn cyd-fynd fel arfer) yn y digwyddiad ei hun, ac wrth wneud hynny, yn ehangu’r gynulleidfa bosib. Mae hefyd yn helpu bod gennym dirwedd a golygfeydd mor hyfryd o amgylch y ddau gampws, felly rhaid gwneud yn fawr o’r nodweddion hynny.
Rwy’n dwlu darllen – rwyf wrth fy modd gyda llyfrau, ac mae gennyf o leiaf un llyfr yn fy mag ar bob adeg. Rwyf hefyd yn dwlu bod ymysg y coed, felly rwy’n cerdded llawer – fel arfer gyda chŵn i ychwanegu at yr helbul! Ar wahân i hynny, rwy’n dwlu ar hanes ac actio amatur, felly byddaf naill ai ar y llwyfan yn rhywle yn Abertawe neu mewn amgueddfa!