Gan gyflwyno ein Swyddog Cymorth Digwyddiadau…Charlotte!
Ymunodd Charlotte â’r tîm Gwasanaethau Digwyddiadau ym mis Mawrth 2022. Ar ôl ymuno â’r tîm fel Cynorthwy-ydd Cymorth Digwyddiadau, mae wedi cael ei dyrchafu a bellach yn Swyddog Cymorth Digwyddiadau. Mae Charlotte wir yn mwynhau gweld digwyddiadau’n cael eu cyflwyno a gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid. Darllenwch isod i gael ciplun ar rôl Charlotte!
Beth a wnaeth eich ysbrydoli i weithio yn y diwydiant Digwyddiadau?
Fel rhywun sy’n dwlu ar drefnu pethau, roeddwn yn gwybod y byddai’r diwydiant hwn yn addas i mi! Rwyf hefyd yn dwlu ar weithio gyda threfnwyr i ddeall eu gofynion ac yna gyfleu’r rhain i randdeiliaid y Brifysgol yn ddyddiol. Mae’r adrenalin a gewch ar ddiwrnod digwyddiad pan fyddwch yn gweld gweledigaeth y trefnydd yn dwyn ffrwyth yn gwneud y gwaith caled yn werth chweil!
Allwch chi ddweud ychydig wrthym am yr hoff ddigwyddiad rydych wedi gofalu amdano ers gweithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Rwyf yn eithaf newydd i’r tîm, ond rwyf eisoes wedi cael y cyfle i weithio ar ddigwyddiadau anhygoel. Fy hoff un oedd cynorthwyo’r BBC wrth iddynt ffilmio drama 4 rhan sydd wedi cael ei darlledu’n ddiweddar ar BBC1 o’r enw Steeltown Murders. Bu’r criw ffilmio’n defnyddio amryw o leoliadau ar draws Campws Parc Singleton i gyfleu’r ‘awyrgylch’ yr oeddent wedi bod yn chwilio amdano. Er y byddem wedi mwynhau bod yn rhan o’r ffilmio, fy rôl oedd sicrhau bod gofynion gweithredol y dydd wedi’u trefnu’n fanwl iawn, ac o ganlyniad bu’r ffilmio’n hwylus a chawsom fusnes ychwanegol drwy gael argymhellion ganddynt!
Beth yw eich hoff bethau am Brifysgol Abertawe?
Y traeth! Mae’r ddau gampws yn agos iawn at y môr, ac rwyf yn hynod ffodus cael yr opsiwn i gerdded ar hyd y traeth yn ystod fy egwyl ginio.
Yn eich barn chi, beth yw’r digwyddiad gorau sy’n cael ei ailadrodd yn y Brifysgol?
Mae’r brifysgol yn cael y pleser blynyddol o groesawu Cerddorfa Genedlaethol Cymru i’r Neuadd Fawr. Dyma’r digwyddiad mawr cyntaf y gwnes i ei drefnu, ac roedd hi’n wych clywed nhw’n ymarfer drwy gydol y dydd, a hyd yn oed yn well gwylio cynulleidfa’n cael ei chyfareddu’n llwyr gan eu perfformiad gyda’r hwyr.
Pe gallech drefnu digwyddiad eich hun, beth fyddai’n rhaid ei gynnwys?
Pe bai’n rhaid cynnwys rhywbeth a fyddai’n gwneud iddo sefyll ben ac ysgwyddau uwchlaw popeth arall, y gorffeniadau a’r ychwanegion arbennig sy’n gwneud digwyddiad yn gofiadwy. Er enghraifft, defnyddio bwth tynnu lluniau, neu gael bwydlen newydd ac arloesol. Hefyd, byddwn i’n defnyddio Bar a Balconi’r Neuadd Fawr i’r eithaf, mae’r golygfeydd o Fae Abertawe’n odidog, ac yn gwneud i ni sefyll ben ac ysgwyddau uwchlaw ein cystadleuwyr.
Ac yn olaf, beth rydych chi’n hoffi ei wneud y tu allan i’r gwaith?
Rwyf newydd gwblhau Hanner Marathon Abertawe’n ddiweddar, felly rwyf wedi bod yn treulio llawer o amser yn yr awyr agored ac yn hyfforddi. Nawr ei fod drosodd, mae’n amser i ddewis nod ffitrwydd newydd – pwy a ŵyr beth fydd nesaf! Ar wahân i ymarfer corff, rwy’n dwlu ar bobi. Yn ystod Covid, bûm yn gweithio mewn popty crefftwyr (rhywbeth gwahanol, dwi’n gwybod!), ac mae’n grefft rwy’n dwlu ei hymarfer ar y penwythnosau, gan sicrhau bod fy surdoes yn goroesi!