Pam cynnal digwyddiad mewn prifysgol?
Ydych chi am gynnal digwyddiad ond ddim yn siŵr pam byddech chi’n dewis prifysgol yn hytrach na lleoliad cynadleddau a adeiladwyd at y diben? Rydym ni wedi llunio pum rheswm pam byddai Prifysgol Abertawe yn lle perffaith i gynnal eich cynhadledd neu’ch digwyddiad nesaf chi.
Lleoliad, Lleoliad, Lleoliad
Mae ein prifysgol yn lle unigryw i gynnal eich digwyddiad neu’ch cynhadledd nesaf. Mae ganddi ddau gampws: saif Campws Parc Singleton hanesyddol yn nhiroedd prydferth Parc Singleton a lleolir ein campws newydd, Campws y Bae, wrth ymyl y traeth.
Mae gennym sawl math o leoliad ar ein safleoedd, o’r Abaty gwreiddiol a adeiladwyd yn y 1920au i’r Neuadd Fawr a adeiladwyd yn ddiweddar.
Siop dan yr Unto
Mae gennym ni bopeth ar diroedd ein campysau. Cyfleusterau o’r radd flaenaf, diogelwch, gwasanaeth arlwyo, campfa ar y safle, llyfrgelloedd, archfarchnadoedd, cyfarpar clyweledol, amrywiaeth eang iawn o ystafelloedd, llety a llawer mwy.
Bwyd Blasus
Beth bynnag fo’ch digwyddiad, mae gennym ni le addas ar y campws i’w gynnal. Mae’r un peth yn wir am ein gwasanaethau arlwyo, boed yn ginio bach i 20 o bobl i ginio mawreddog am 300 – gall ein gwasanaeth arlwyo ar y campws wneud y cyfan, heb gyfaddawdu ar ansawdd na gwasanaeth. Gallwn ddarparu ar gyfer unrhyw ofynion deietegol, a theilwra unrhyw fwydlen i’ch digwyddiad penodol chi.
Gorffwys yn Braf
Mae ein llety 3* seren ar y campws ei hun yn addas i bob cyllideb, ac mae 2,000 o ystafelloedd ar gael ar Gampws y Bae a 1,100 ar Gampws Singleton – mae digonedd o ddewis!
Bwrlwm bywiog
Ar gampysau ein prifysgol, mae bob amser rhywbeth ar y gweill. O oergelloedd cymunedol y tu allan i Dŷ Fulton, Bingo Lingo yn y ffreutur i gemau BUCS yn y parc chwaraeon, mae’r bwrlwm y campws heb ei ail. Bydd bob amser wynebau cyfeillgar ar hyd y lle, ac adloniant at ddant pawb.