Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Pam mae digwyddiadau ar y traeth yn wych

Beth sydd ddim i’w garu am fod ar y traeth?

Os ydych yn trefnu barbeciw ar Gampws y Bae neu ddigwyddiad rhwydweithio corfforaethol hamddenol gan ddefnyddio caffi’r Neuadd Fawr, mae digwyddiadau tywodlyd ym Mhrifysgol Abertawe yn wahanol iawn ac yn cyffroi cynrychiolwyr. Felly, os yw digwyddiad ar lan y môr gyda digonedd o leoedd i’w harchwilio’n swnio’n wych i chi, rydych wedi dod i’r lle cywir.

Mae’r brifysgol yn lleoliad arbennig i gynnal eich digwyddiad nesaf, gyda Champws Singleton a Champws y Bae wedi’u lleoli ar Fae Abertawe, lle gall cynrychiolwyr ymlacio a rhwydweithio â’i gilydd wrth brofi awyrgylch gwyliau cartref oddi cartref.

Mae cymuned y Brifysgol yn estyn croeso cynnes i bawb, ac mae ein campysau trawiadol ar y glannau’n lleoliadau delfrydol i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr o bedwar ban byd. Gallwch drefnu cyfarfod diwrnod ac edrych allan ar lain preifat o’r traeth o falconi’r Neuadd Fawr, neu os ydych yn trefnu digwyddiad gyda’r hwyr yn hwyrach yn y gwanwyn/yn ystod yr haf, beth am roi trît i’ch cynrychiolwyr gyda barbeciw ar y traeth?  Gall ein tîm Digwyddiadau profiadol eich helpu i drefnu arlwyo ar gyfer eich gwesteion, gan gynnig llu o opsiynau, o gig moch rhost blasus i fyrgyrs, cŵn poeth, sgiwerau a mwy – mae opsiynau fegan a llysieuol wedi’u cynnwys.

Os ydych wedi bod yn ddigon ffodus i weld ychydig o forluniau Abertawe, nid yw’n anodd gweld pam mae pobl yn heidio tuag at leoliadau ar lan y môr.  Gyda’r brifysgol mor agos at Fae Abertawe (mae gan Gampws y Bae ei draeth preifat ei hun…), mae digon o gyfle i gynnig amgylchedd ffres a hamddenol i’ch cynrychiolwyr, sy’n gallu bod yn ddelfrydol ar gyfer ysgogi syniadau newydd a chael yr awen i lifo. Hefyd, mae’r ddau gampws yn agos iawn at fannau o ddiddordeb arbennig â golygfeydd gwefreiddiol, gan gynnwys y Mwmbwls a Phenrhyn godidog Gŵyr, lle gallwch gerdded, nofio a chymryd ychydig o amser i fyfyrio.

Mae Prifysgol Abertawe yn berffaith ar gyfer cynnal eich digwyddiad nesaf, felly pam oedi?Beth am brofi busnes ar y traeth yn 2023 – cysylltwch â’r tîm Gwasanaethau Digwyddiadau profiadol heddiw.