Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Pam Abertawe?

O draethau eang a llwybrau natur i strydoedd siopa swynol a hybiau diwylliannol bywiog, mae Prifysgol Abertawe’n ddewis amlwg wrth chwilio am rywle i gynnal digwyddiad arbennig sydd ag atyniadau lleol di-rif o’i gwmpas.

Lleoliad arfordirol – Mae ein Prifysgol ar arfordir de Cymru. Mae ein Campws y Bae ar bwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac rydym yn gyfrifol am gynnal a chadw’r safle hwnnw. Mae twyni, morfeydd heli a thraeth Twyni Crymlyn yn hafan i fywyd gwyllt, darn o anialwch sydd wedi llwyddo rywsut i oroesi dwy ganrif o ddatblygiad a diwydianeiddio o amgylch Bae Abertawe. Mae modd cynnwys ein traeth preifat yn eich digwyddiad hefyd, gan gynnwys cynnal barbeciw a gweithgareddau meithrin tîm.

Ardaloedd gwyrdd hardd – Os ydych chi’n dwlu ar fyd natur, dilynwch y llwybr ar draws Campws Singleton a darganfod yr amrywiaeth o gynefinoedd bywyd gwyllt neu ewch ar daith antur drwy Barc Cwmdoncyn a Gwarchodfa Natur Coed yr Esgob.

Diwylliant lleol – Gallwch ymgolli mewn hanes wrth archwilio un o’r amgueddfeydd, orielau a mannau diwylliannol niferus yn y cyffiniau, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Abertawe a Chanolfan Dylan Thomas. Os ydych chi wrth eich bodd â hanes, sicrhewch eich bod yn ymweld â Chastell Ystumllwynarth sy’n dyddio o’r 12fed ganrif.

Gwledd o fwyd – Mae Abertawe’n lle rhagorol i’r rhai sy’n dwlu ar eu bwyd. Gallwch gael blas ar ddanteithion yr ardal megis cocos a bara lawr, sef y saig sy’n adnabyddus yn fyd-eang a wneir gan wymon sy’n cael eu casglu ar lannau gogledd Gŵyr. Am brofiad ciniawa gwahanol, gallwch archwilio’r stryd enwog Stryd y Gwynt â’i dewis sylweddol o fwytai, barau a chaffis.

Bywyd diwylliannol heb ei ail – Ar Gampws Singleton, ceir Theatr Taliesin sef lleoliad celfyddydol deinamig o fri sydd yno i gyfoethogi bywydau diwylliannol unigolion a chymunedau ar draws y rhanbarth, gan gynnig rhaglen o ddigwyddiadau dawns, theatr a cherddoriaeth byw ac wedi’u darlledu a ffilm. Mae Taliesin yn cynnal perfformiadau theatr byw gan gynnwys ‘Milky Peaks’ a dangosiadau sinema gan gynnwys ffilmiau poblogaidd megis “Where the Crawdads Sing”, “Don’t Worry Darling” a mwy.

Cysylltwch â’r tîm digwyddiadau i drafod pam mai Abertawe yw’r lle gorau i gynnal eich digwyddiad nesaf.