Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Yn cyflwyno ein Swyddog Digwyddiadau…Gwyneth!

Mae Gwyneth wedi gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ers 11 o flynyddoedd ac mae hi wedi bod yn ei rôl Swyddog Digwyddiadau ers 10 mis.

O’ch ymholiad cyntaf i’r funud mae’r unigolyn olaf yn gadael, Gwyneth fydd eich swyddog cymorth. Mae Gwyneth yn helpu i gefnogi eich digwyddiad o’r dechrau i’r diwedd, o sicrhau bod y byrddau wedi’u gosod yn yr ystafell i drefnu eich llety ar y safle.

Llwyddon ni i dreulio 20 munud gyda Gwyneth yn cynnal sesiwn holi ac ateb i ddysgu mwy am ei hoff agweddau ar reoli digwyddiadau ym Mhrifysgol Abertawe.

Pam digwyddiadau?

Rwyf wrth fy modd yn helpu pobl ac rwy’n angerddol am fy swydd. Rwy’n dwlu ar sicrhau bod fy nghleientiaid yn cael y profiad gorau posibl yn ystod digwyddiad dwi wedi’i drefnu. Yn ogystal, mae pob digwyddiad yn wahanol ac mae hynny’n wych.

Beth yw’r hoff ddigwyddiad rydych chi wedi’i drefnu?
Fy hoff ddigwyddiad oedd cynhadledd a chinio M2A a gynhaliwyd ym mis Ebrill eleni. Mae M2A yn Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig a arweinir gan ddiwydiant. Mae’r digwyddiad yn galluogi myfyrwyr a diwydianwyr i drafod eu hymchwil a dyfodol peirianneg.

Hon oedd y gynhadledd fawr gyntaf roeddwn i wedi helpu i’w threfnu ac maen nhw eisoes wedi archebu ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Rwy’n teimlo’n falch o’r hyn gwnaethon ni ei gyflawni yn ystod y digwyddiad gwych hwn.

Beth yw’ch hoff beth am y Brifysgol?

Campws y Bae. Mae’n hynod brydferth ac rydych chi mor agos at y traeth yn enwedig os ydych chi’n cael diwrnod sy’n llawn straen, gallwch chi fynd am dro a dod yn ôl yn teimlo’n fwy ffres. Hefyd, mae’r holl staff mor hyfryd a chyfeillgar ac, er ein bod ni’n adrannau gwahanol rydyn ni’n cydweithio’n dda ac yn gweddu ein gilydd yn dda.

Beth yw’r digwyddiad gorau sy’n cael ei gynnal yn rheolaidd yn y Brifysgol?

Mae hynny’n anodd… Byddwn i’n dweud yr Ysgol Haf Peirianneg. Bydd darpar fyfyrwyr sy’n 16 ac yn 17 oed yn dod i aros ar y safle ac yn mynd i ddarlithoedd. Mae’n gyfle i weithio gydag adrannau gwahanol ac mae’n gyfle gwych i ni hyrwyddo’r Brifysgol i fyfyrwyr y dyfodol mewn ffordd sy’n llawn hwyl. Mae’n ddigwyddiad gwych sy’n amlygu’r pethau gorau am Brifysgol Abertawe.

Pe baech chi’n cynnal eich digwyddiad eich hun, beth yw’r nodwedd hanfodol?

Mae’n rhaid cael lleoliad da. I mi, byddwn ni i bob tro yn dewis y Neuadd Fawr, bod allan yn ardal balconi’r bar yw’r gorau, hefyd, yn ogystal â chynnig golygfeydd da, mae’r bar yn cynnig diodydd gwych. Mae’r adeilad yn hyblyg iawn ac mae’n cynnig cynifer o opsiynau ar gyfer digwyddiadau gwahanol sy’n gallu cael eu cynnal yma. 

Ac, yn olaf, beth yw’ch hoff beth i’w wneud y tu allan i oriau gwaith?

Treulio amser gyda fy wyrion. (Do, gwnaethoch chi ddarllen hynny’n gywir – allwn ni ddim credu bod Gwyneth yn fam-gu chwaith)

Gobeithiwn eich bod chi wedi mwynhau cael cipolwg ar fywyd ein Swyddog Digwyddiadau Gwyneth, y tro nesaf fydd… Deanna!