Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Sut aeth y digwyddiad?

Ar ôl cynnal eich digwyddiad, mae’n hawdd colli’ch hun ym momentwm y diwrnod, gan symud ymlaen yn gyflym at y dasg nesaf. Ond mae’n hollbwysig cymryd ychydig o amser i adolygu a gwerthuso’ch digwyddiad; beth aeth yn dda? Beth oedd ddim mor dda? Edrychwch yn ôl yn wrthrychol ac yn adeiladol er mwyn gweld yr hyn y gallwch ei wella ar gyfer yr amser nesaf.

Heddiw, rydym yn rhannu ein hawgrymiadau euraidd ar gyfer gwerthuso’ch digwyddiad.

Pan drefnoch chi eich digwyddiad, byddech chi wedi pennu nodau o’r hyn roeddech chi am ei gyflawni. Diben canolog casglu adborth yw deall a wnaethoch chi lwyddo yn eich amcanion.

I wneud hyn, mae’n bwysig peidio â seilio’ch gwerthusiad ar eich barn bersonol chi’n unig. Er bod ystyried eich barn chi fel trefnydd y digwyddiad yn hollbwysig, siaradwch hefyd â’ch cynadleddwyr, eich rhanddeiliaid, eich siaradwyr a’ch arddangoswyr i glywed eu barn nhw am y gynhadledd.

Un o’r darnau o waith gorau er mwyn sicrhau eich bod chi’n derbyn amrywiaeth o adborth yw creu arolwg ar Facebook y gellir ei anfon at bawb a ddaeth. Gallwch chi greu un gwahanol ar gyfer cynadleddwyr, siaradwyr ac arddangoswyr i gael ystod ehangach o farn. Hyd yn oed os nad aeth pethau yn ôl y cynllun, mae’n bwysig anfon eich arolwg o hyd, oherwydd heb dystiolaeth, mae’n anodd gwybod yn union yr hyn y mae angen ei newid. Ac wrth reswm, efallai y bydd pethau wedi mynd yn fwy hwylus nag y tybioch chi!

Er gwyddom fod arolygon ar ôl digwyddiad ond yn arwain at gyfradd gwblhau o 30% i 50% yn gyffredinol, gan ddibynnu ar nifer y cynadleddwyr, dylai hyn ddal fod o fudd o ran cael sail deg i’w dadansoddi. Ond cofiwch, os bydd 1 neu 2 unigolyn yn unig yn llenwi’r arolwg, gall ffigurau fod yn gamarweiniol ac felly dylid eu hystyried yn ofalus cyn i chi wneud newidiadau mawr i’ch trefniadau a’ch rhaglen.

Ar ôl casglu’ch adborth, lluniwch adroddiad ar ôl y digwyddiad i’w gylchredeg ymhlith rhanddeiliaid. Dechreuwch drwy amlinellu’ch amcanion a sicrhewch eich bod chi’n dweud a wnaethoch chi lwyddo i’w cyflawni ai peidio. Byddwch yn onest, neu does dim diben i gasglu adborth o gwbl.

Dylai meysydd eraill i’w trafod yn eich adroddiad gynnwys:

  • Cefndir – beth oedd wedi’ch sbarduno i drefnu’ch digwyddiad?
  • Canlyniadau – beth oeddech chi’n gobeithio y byddai’n deillio o’r digwyddiad?
  • Cyllideb a gwir gwariant – sut gwarioch chi eich arian?
  • Ffigurau presenoldeb ffigurau – a ddaeth pawb a oedd wedi cadarnhau eu bod yn dod?
  • Adborth – dyma le byddwch yn rhannu eich canlyniadau craidd heb ddehongliad
  • Crynodeb – beth rydych chi wedi’i ddysgu o’ch digwyddiad a sut byddwch chi’n ei ddefnyddio i wella’r tro nesaf?

Un awgrym terfynol: Pan fyddwch yn pennu’ch amcanion ar gyfer y flwyddyn nesaf, cadwch adborth pobl eraill mewn cof ond peidiwch ag addo gormod. Pe byddai rhywun wedi hoffi gweld Cirque du Soleil fel adloniant gyda’r hwyr ond gall eich cyllideb chi dalu am ambell canapé yn unig, peidiwch â threulio gormod o amser yn ceisio dod o hyd i ffyrdd i gyflawni’r hyn sy’n amhosib! Serch hynny, os oedd neilltuo mwy o amser ar gyfer arddangosfeydd yn thema gyffredin, yna byddai cynnig ychydig mwy o amser ar gyfer sesiynau rhwydweithio yn gwneud y tro i wireddau hyn yn ddigon rhwydd.

Gobeithio y bydd gennych chi wybodaeth gadarn a defnyddiol a fydd yn ganolog i drefnu digwyddiadau’r dyfodol.