Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Newyddion Da Great Western i Gynadleddwyr

Gall cynadleddwyr sy’n mynychu cynadleddau ym Mhrifysgol Abertawe hawlio gostyngiad o 20% oddi ar gost tocyn trên gyda Great Western Railway pan gaiff tocynnau eu prynu o flaen llaw.

 

Mae ein dau gampws o fewn cyrraedd hawdd o orsaf drenau Abertawe, ac mae gwasanaeth bws rhif 10 yn gwasanaethu Campws Parc Singleton a Champws y Bae yn uniongyrchol â’r orsaf.

 

Gall y gostyngiad hael, ar gyfer trenau GWR yn unig, gael ei ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw gardiau trên neu ostyngiadau efallai y mae gennych hawl iddynt eisoes. Mae ar gael ar gyfer teithiau yn ystod wythnos y gynhadledd – newyddion gwych ar gyfer y rheiny sy’n dymuno treulio mwy o amser yn archwilio Abertawe y tu allan i amserlen y gynhadledd.

 

Mae’r cynnig yn cynnwys gostyngiad o 20% oddi ar gostau Pryniadau o Flaen Llaw sydd ar gael ar y mwyafrif o deithiau canolig a hir GWR ac mae’n rhaid iddynt gael eu harchebu drwy’r ddolen isod: http://tickets.gwr.com/gw/en/landing/promotion.aspx?id=SwanseaUni&isAllowed=False

 

Telerau ac Amodau:

  1. Mae cynnig teithiau Open Days GWR ar gael ar gyfer teithiau ar wasanaethau GWR yn unig. Os ydych chi’n teithio o neu o fewn rhanbarth o’r wlad nad yw’n rhan o rwydwaith GWR efallai y bydd yn rhaid i chi brynu tocynnau ar wahân i’ch cyrchfan.
  2. Mae’n rhaid bod y cyrchfan yn berthnasol i’r Brifysgol rydych wedi derbyn y ddolen ganddi h.y. Gorsaf Drenau Abertawe ar gyfer Prifysgol Abertawe.
  3. Mae’n rhaid bod tarddiad y daith o fewn rhwydwaith GWR, ond sylwer nad yw tocynnau Prynu o Flaen Llaw ar gael ar gyfer teithiau byr.
  4. Mae’r cynllun ar gael ar gyfer tocynnau Prynu o Flaen Llaw yn unig. Mae’r rhain yn gosod amseroedd a dyddiadau ar gyfer teithio ac nid oes modd eu cyfnewid na derbyn ad-daliad arnynt.
  5. Mae cynnig teithio Open Days GWR ar gael ar gyfer y dyddiadau a ddarparwyd gan bob prifysgol a’r wythnos y cynhelir y digwyddiad, gan redeg o’r dydd Sadwrn tan y dydd Sul. Felly arhoswch am fwy na diwrnod i gael blas ar yr ardal leol.
  6. Gellir cyfuno’r cynllun â Railcard. Ticiwch y blwch ar y dudalen “Passengers” a dewiswch o’r gwymplen.
  7. Mae’r URL yn unigryw i Brifysgol Abertawe ac ni ellir ei defnyddio ar gyfer cyrchfannau ac eithrio’r un a nodwyd.