Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Graddio’r Gaeaf

Yn ystod wythnos o ddathliadau, dathlwyd llwyddiannau ein myfyrwyr yn ystod cyfres o seremoniau Graddio’r Gaeaf syfrdanol ar Gampws y Bae.

 

Llifodd gorymdaith falch o raddedigion drwy’r Neuadd Fawr i dderbyn eu dyfarniadau yn ysblander Awditoriwm Syr Stanley Clarke sydd â 700 o seddi ynddo, cyn mynd draw i’r Core i barhau â’r dathlu gydag aelodau teulu a ffrindiau balch.

 

Cafodd y ffreutur myfyrwyr byrlymus ei weddnewid yn llwyr ar gyfer y digwyddiad gan droi’n lleoliad dathlu ysblennydd â’r byrddau wedi’u gorchuddio â llieiniau bwrdd gwyn a chanolbwynt blodau syfrdanol; sy’n dyst i ba mor amlddefnydd yw ein gofodau yma ym Mhrifysgol Abertawe.

 

Darparwyd cerddoriaeth gefndirol gan gerddorfa linynnol swynol a llifai’r prosecco wrth i westai fwynhau canapés archwaethus gan ein tîm arlwyo ar y campws, gan gynnwys tartenni sawrus bach, sgiweri llysiau Canoldirol a blinis eog mwg. Dilynwyd y danteithion sawrus gan ddanteithion melys ar ffurf detholiad o facarŵns a sgons bach.

 

Diolch i ymdrechion ardderchog ar y cyd ar draws y Brifysgol, rhoddodd Seremoni Raddio’r Gaeaf brofiad cofiadwy i’n graddedigion gwbl haeddiannol, eu teuluoedd a staff y Brifysgol.

 

Dysgwch fwy am ein hystafelloedd cyfarfod amlddefnydd ar Gampws y Bae.