Prifysgol Abertawe’n Croesawu Cynhadledd y Gymdeithas Osôn Ryngwladol
O ddydd Mercher 26 Hydref i ddydd Iau 28 Hydref, darparodd Ardal Beirianneg Campws y Bae leoliad ar gyfer Cynhadledd ac Arddangosfa’r Gymdeithas Osôn Ryngwladol.
Yn y gynhadledd hon, daeth ymchwilwyr ac ymarferwyr proffesiynol â diddordeb mewn osôn ac ocsideiddiad uwch ynghyd i gyflwyno a thrafod yr wybodaeth gyfredol a’r datblygiadau diweddaraf yn y maes.
Cynhaliwyd y sgyrsiau a’r arddangosfa yn ein darlithfa o’r radd flaenaf B001 yn yr Ardal Beirianneg a chafodd y cynadleddwyr gyfle i fwynhau’r golygfeydd dros Fae Abertawe wrth gael cinio yn Oriel y Gorllewin y Neuadd Fawr.
Roedd y Rhaglen Wyddonol yn cynnwys bron 50 cyflwyniad gyda darlithfeydd gan brif siaradwyr, cyflwyniadau poster a thrafodaeth am lwyth o bynciau ym maes osôn gan gyfranwyr o bwys o bob cwr o’r byd.
Trefnwyd y gynhadledd gan Dr Chedly Tizaoui o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, ar y cyd a’r Gymdeithas Osôn Ryngwladol. Manteisiodd Dr Tizaoui a’r pwyllgor trefnu ar wasanaethau cydlynwyr digwyddiadau’r Brifysgol i’w helpu i gynnal y gynhadledd ryngwladol drwy becyn pwrpasol o gymorth ar gyfer y digwyddiad.
Yn ogystal â helpu i reoli’r digwyddiad, cynorthwyodd y tîm hefyd wrth gynllunio teithiau a gweithgareddau oddi ar y safle, gan gynnwys taith dechnegol i Fferm Steanbow yng Ngwlad yr Haf a gynigiodd gyfle i’r cynadleddwyr weld sut mae osôn yn cael ei ddefnyddio ar fferm ieir. Buont yn helpu hefyd i drefnu noson o adloniant Cymreig yng ngwesty Morgans a roddodd gyfle i’r cynadleddwyr ymlacio a chael blas ar ddiwylliant Cymru wrth fwynhau bwyd a diod o Gymru mewn cinio a derbynfa diodydd.
Meddai Dr Tizaoui:
“Roeddwn wrth fy modd yn cael cyfle i weithio gyda’r tîm Gwasanaethau Digwyddiadau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae fy ngwaith fel Athro Cysylltiol yn y Coleg Peirianneg yn fy nghadw’n brysur iawn, felly roedd ychwanegu trefnu cynhadledd ryngwladol at fy llwyth gwaith a oedd eisoes yn drwm yn her a dweud y lleiaf.
“Diolch byth, roedd y tîm Gwasanaethau Digwyddiadau yn y Brifysgol yn gallu fy helpu drwy greu pecyn pwrpasol o gymorth i’m helpu i drefnu’r digwyddiad hwn.
“Roedd y gynhadledd yn llwyddiant ysgubol. Roedd yr holl gynadleddwyr yn hapus iawn gyda’r trefniadau, y lleoliad gwych, y croeso Cymreig cynnes a hyd yn oed y tywydd! Aeth yr ymweliad â’r fferm ieir yn dda iawn; ar y cyfan, gwnaethom yn dda iawn ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm eto yn y dyfodol”.
I gael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd ac am waith y Gymdeithas Osôn Ryngwladol, cliciwch yma http://www.ioa-ea3g.org/