Creu’r rhaglen berffaith ar gyfer eich digwyddiad
Y mis diwethaf, gwnaethom rannu ychydig o’n hawgrymiadau gorau i ddewis lleoliad gwych ar gyfer eich digwyddiad. Ar ôl i chi ddewis a neilltuo’ch lleoliad perffaith, beth yw’r camau nesaf yn y broses?
Pan fydd y lleoliad wedi’i neilltuo, dylech fod yn barod i ddechrau cynllunio’r rhaglen berffaith ar gyfer eich digwyddiad. Mae llunio rhaglen sy’n diwallu anghenion amrywiol holl gyfranogwyr eich digwyddiad yn sgil arbenigol sy’n ganlyniad blynyddoedd maith o brofiad o gynllunio digwyddiadau yn aml. Ond peidiwch â phoeni! Mae gennym gyngor gwych isod am rai pethau y gallwch eu gwneud i sicrhau bod eich cyfranogwyr yn cael profiad o’r radd flaenaf.
Wrth gynllunio rhaglen ddigwyddiad, dylech geisio eich rhoi eich hun yn esgidiau cyfranogwyr y digwyddiad. Dylai’r rhaglen gael ei hamseru’n berffaith gyda digon o gyflymder ac amrywiaeth i gynnal diddordeb y cyfranogwyr ar bob cam, o gyrraedd a chofrestru tan iddynt adael y lleoliad. Wrth gynllunio’ch rhaglen, mae’n syniad da mynd drwy bob cam yn eich meddwl, neu hyd yn oed ar y safle, i sicrhau y bydd pob elfen o’ch digwyddiad yn creu argraff gadarnhaol ar y cyfranogwyr.
Ein Deg Awgrym Gorau ar gyfer Cynllunio Rhaglen
Sicrhewch eich bod yn cynnig agoriad cryf iawn i’r cyfranogwyr
Byddwch am ennyn diddordeb eich cyfranogwyr o ddechrau’r digwyddiad a’i gynnal, felly dylai’ch anerchiad agoriadol fod yn gryf iawn! Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd eich amser wrth ddewis y siaradwr perffaith ar gyfer eich anerchiad croesawu/agoriadol a phan fyddwch wedi dewis y prif siaradwr delfrydol, gweithiwch yn agos ag ef i sicrhau ei fod yn deall amcanion y digwyddiad yn berffaith a bod pob agwedd ar y sgwrs neu’r anerchiad yn bodloni’r gofynion.
Dewiswch gyflwynydd o’r radd flaenaf
Bydd cyflwynydd neu hwylusydd rhagorol ar gyfer eich digwyddiad yn helpu i sicrhau bod y digwyddiad yn mynd rhagddo’n ddidrafferth. Gallwch golli diddordeb cyfranogwyr yn ystod cyfnodau rhwng sesiynau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnal eu diddordeb drwy ddewis cyflwynydd profiadol sydd â’r awdurdod, y carisma a’r swyn i allu ennyn diddordeb ac egni’r gynulleidfa a’u hysgogi drwy’r dydd.
Mae amrywiaeth yn bwysig
Amrywiaeth sy’n rhoi blas ar fywyd, a bydd angen i chi sicrhau bod rhaglen eich digwyddiad yn cynnig digon ohono. Gall hyn fod yn her os nad oes ond ychydig o oriau mewn dydd gennych i gynnwys popeth. Yn ystod eich digwyddiad, ceisiwch roi amrywiaeth eang o gyfleoedd i’ch cyfranogwyr eistedd a gwrando a chyfrannu a chymryd rhan mewn amrywiaeth o sesiynau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn amrywio amseru’r digwyddiad cymaint â phosib drwy gymysgu sgyrsiau hwy â sesiynau byrrach a darparu digon o gyfleoedd i gael trafodaeth ddwyffordd gadarnhaol a gwrando ar enghreifftiau o fywyd go iawn. Peidiwch â thanamcangyfrif pa mor fyr yw rhychwantau sylw pobl y dyddiau hyn. Yr hyn sy’n bwysig yma yw dyfeisio ffyrdd o gynnig digon o ddewis i’ch cyfranogwyr.
Peidiwch â Thanbrisio Pwysigrwydd Rhwydweithio
Maen nhw’n dweud bod rhwydweithio’n un o’r prif resymau mae pobl yn mynd i ddigwyddiadau; felly os hoffech gynnal digwyddiad sy’n llwyddiant ysgubol, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnig llawer o gyfleoedd i bobl gwrdd a dod i adnabod ei gilydd yn anffurfiol.
A pheidiwch â chyfyngu rhwydweithio i’r egwyl ginio yn unig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys amser i bobl rwydweithio yn rhannau ffurfiol y rhaglen; a defnyddiwch eich cyflwynydd proffesiynol i helpu’ch cyfranogwyr i feithrin eu cysylltiadau drwy gydol y digwyddiad.
Cadwch y gorau tan y diwedd!
Wrth i’ch digwyddiad ddirwyn i ben, rydych am greu argraff ar eich cyfranogwyr na fyddant yn ei hanghofio’n fuan, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi trefnu siaradwr rhagorol ar gyfer y sesiwn olaf.
Ceisiwch ddewis rhywun a fydd yn gallu cysylltu’n dda â’r gynulleidfa, cynhyrfu eu teimladau a hyd yn oed eu hysbrydoli i weithredu. A gwnewch yn siŵr ei fod yn deall y gynulleidfa a phrif amcanion y digwyddiad yn drylwyr a’i fod yn gallu crynhoi’r diwrnod yn glir, gan dynnu ynghyd ac amlygu unrhyw themâu ac agendâu sydd wedi dod i’r amlwg.
Os oes angen help arnoch i reoli’ch digwyddiad nesaf ym Mhrifysgol Abertawe, mae rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth Arbenigwyr Digwyddiadau yma.