Gynhadledd Ryngwladol ar Ffotofoltäig Hybrid ac Organig
Ar 28 Mehefin, bu’n bleser gennym groesawu dros 400 o ymchwilwyr blaenllaw ym maes ffotofoltäig hybrid ac organig o ledled y byd i’n Campws y Bae ar gyfer yr 8fed Gynhadledd Ryngwladol ar Ffotofoltäig Hybrid ac Organig.
Hwn oedd y tro cyntaf i’r gynhadledd ryngwladol bwysig hon gael ei chynnal yn y DU ac mae’n dangos bod Abertaw’n ganolfan fyd-eang allweddol ar gyfer datblygu technolegau ffotofoltäig hybrid ac organig.
Yn ystod y digwyddiad tri diwrnod a noddwyd gan Brifysgol Abertawe a’i Chanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC , bu arddangosfeydd posteri’n llenwi strydoedd ein Hardal Beirianneg gyda’r Neuadd Fawr yn gefnlen i raglen lawn o weithdai a sgyrsiau ar y datblygiadau diweddaraf mewn ffotofoltäig: o synthesis a phrosesu deunyddiau i nodweddu gweithredol ac adeileddol ac uwchraddio a datblygu masnachol.
Cadeiriwyd y digwyddiad gan yr Athro James Durrant o Imperial College Llundain ac Athro Ymchwil Sêr Cymru ym Mhrifysgol Abertawe; Yr Athro David Worsley o Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC, Prifysgol Abertawe; a’r Athro Henry Snaith o Brifysgol Rhydychen.
Cafwyd prif gyflwyniadau gan Richard Friend o Brifysgol Caergrawnt, Karl Leo o Technische Universitaet Dresden, yr Almaen ac Ayodhya N. Tiwari o Labordai Ffederal y Swistir ar gyfer Gwyddor a Thechnoleg Deunyddiau.
Cewch ragor o wybodaeth am y gynhadledd yma.
Mae rhagor o wybodaeth am SPECIFIC ar gael yma.