Gŵyl Wyddoniaeth Prydain yn Dod i’r Dref!
Am mai 62 o ddiwrnodau yn unig sydd i fynd tan ddechrau Gŵyl Wyddoniaeth Prydain 2016, mae pethau’n wirioneddol gynhesu wrth i Brifysgol Abertawe helpu pobl i gysylltu â gwyddoniaeth yr Haf hwn.
Bydd y strafagansa wyddonol hon yn dod â miloedd o bobl, gan gynnwys gwyddonwyr blaengar y byd, ynghyd ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe ar gyfer y digwyddiad gwyddonol hynaf yn Ewrop.
Bydd yr ystod eang o bynciau i’w trafod yn ystod y digwyddiad pedwar diwrnod yn cynnwys popeth o beirianneg a’r amgylchedd i gymdeithas a gofod.
Daw rhaglen lawn yr ŵyl, a lansiwyd yn Llundain ym mis Mehefin, o weledigaeth newydd Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain i osod gwyddoniaeth wrth galon ein cymdeithas a’n diwylliant; ac, am y tro cyntaf, mae’n canolbwyntio ar gynulleidfa o oedolion sydd â diddordeb ym maes gwyddoniaeth ond nid ydynt yn arbenigwyr.
Mae pob un o’r digwyddiadau sydd wedi’u cynnwys yn rhaglen flaengar y digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae croeso i’r cyhoedd eu mynychu. Daw’r ŵyl i ben ar benwythnos y 10/11 Medi gan gynnal penwythnos rhagorol sy’n llawn hwyl a sbri i’r teulu gan gynnwys gweithgareddau, gweithdai a chynyrchiadau ymarferol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Cynhaliwyd yr ŵyl wyddoniaeth gyntaf, a gefnogir gan Siemens, yng Nghaerefrog ym 1831 ac mae’n dychwelyd i Abertawe eleni am y pumed tro ar ôl i’r Ddinas ei chynnal ym 1848, 1880, 1971 a 1990 gynt.
Mae uchafbwyntiau Gŵyl 2016 yn cynnwys: Ceufadu Sonig ym Mae Abertawe, Cynrhon Meddygol a 50 o Flynyddoedd o Ehediadau i’r Gofod gan Fodau Dynol.
I weld rhaglen lawn yr ŵyl ac i ddod o hyd i’w hanes ewch i: www.britishsciencefestival.org