Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Rydym yn fyw!

Croeso i Ddigwyddiadau a Lletygarwch Prifysgol Abertawe.

Roedd 2015 yn flwyddyn gyffrous a hynod brysur i ni i gyd ym Mhrifysgol Abertawe wrth i ni symud i weithredu ar ddau gampws. Yn ogystal â mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd mae Campws y Bae yn eu cynnig ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau, rydym hefyd wedi bod yn ehangu’r tîm ac yn mireinio’r gwasanaeth.

Rydym wedi aildrefnu’r tîm ac wedi recriwtio aelodau newydd i’n helpu i ddarparu gwasanaethau cynadledda a digwyddiadau o’r radd flaenaf ar draws dau gampws Prifysgol Abertawe.  Yr enw rydym wedi’i roi i’n gwasanaeth newydd yw Digwyddiadau a Lletygarwch Prifysgol Abertawe. 

Mae ein tîm Gwasanaethau Digwyddiadau newydd yn cynnwys cydlynwyr digwyddiadau proffesiynol profiadol sydd â’r nod o ddarparu gwasanaeth proffesiynol a chynaliadwy sy’n cefnogi, yn hwyluso ac yn cyflwyno digwyddiadau rhagorol ar draws ein dau gampws.

 Fel rhan o’r gwasanaeth newydd, rydym wedi datblygu gwefan newydd sbon. Gobeithiwn yn fawr y bydd wrth eich bodd! Os oes gennych unrhyw adborth am y wefan, neu am unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, cysylltwch â ni nawr.