Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Y Pasg gyda Digwyddiadau a Lletygarwch Prifysgol Abertawe

Mae’r Pasg bob amser yn amser prysur a chyffrous i Ddigwyddiadau a Lletygarwch Prifysgol Abertawe, ac mae eleni’n addo bod yr un fath, gan gynnal nifer o ddigwyddiadau a chynadleddau allweddol.

Seminar Flynyddol M2A

Yn dilyn llwyddiant seminar flynyddol yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) ar 27 Mawrth 2017, rydym yn falch o gynnal y digwyddiad unwaith eto ar Gampws y Bae. Bydd y fenter Prifysgol Abertawe yn gweld cynadleddwyr yn dod i’r Neuadd Fawr ar gyfer raglen lawn yn canolbwyntio ar ymchwil deunyddiau a gweithgynhyrchu blaenllaw.

Am ragor o wybodaeth am M2A, cliciwch yma.

Cynhadledd Penaethiaid Abertawe

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Cynhadledd Penaethiaid Abertawe i Gampws y Bae ar 28 Mawrth. Mae’r digwyddiad diwrnod llawn, a gynhelir yn y Neuadd Fawr, yn cynnwys rhaglen lawn yn canolbwyntio ar bynciau ‘Dyfodol Disglair – Datblygu Unigolion Iach a Hyderus’.

Cynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Amnesty International 2018

Ar benwythnos 7-8 Ebrill, bydd yn bleser gennym gynnal Cynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Amnesty International ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd aelodau Amnesty yn uno mewn nifer o fannau cyfarfod ar draws yr Ysgol Reolaeth a’r Neuadd Fawr ar gyfer sgyrsiau am ymgyrchoedd hawliau dynol, i gyfrannu at sgyrsiau a thrafodaethau panel ac i rannu sgiliau a phrofiadau.

Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Llosgiadau Prydain

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Llosgiadau Prydain ar 11-13 Ebrill yn y Neuadd Fawr. Bydd y digwyddiad allweddol hwn yng nghalendr y Gymdeithas yn cynnwys rhaglen rwydweithio lawn, arddangosfa fasnach a siaradwyr nodedig, gyda sesiwn arbennig ar Ymatebion Milwrol.

Bydd ein timau Gwasanaethau Digwyddiadau ac Arlwyo yn gweithio’n galed gydag adrannau allweddol eraill yn y Brifysgol i sicrhau bod yr holl ddigwyddiadau’n rhedeg yn ddidrafferth ac y bydd y cynadleddwyr sy’n ymweld â ni yn cael profiad i’w gofio yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe.

Am ragor o wybodaeth am gynnal eich digwyddiad nesaf yn ein Neuadd Fawr o’r radd flaenaf, cliciwch yma.