Campus y Bae

Ein Campws newydd sbon o’r radd flaenaf yn y Bae, gyda’r Neuadd Fawr eiconig, amlbwrpas yn y canol, yw’r lleoliad perffaith i gynnal digwyddiadau o bob math.

P’un a ydych yn cynnal perfformiad cerddorol, yn trefnu cynhadledd ryngwladol bwysig neu ginio mawreddog, mae Campws y Bae yn cynnig mannau cyfarfod rhagorol mewn lleoliad godidog ger y traeth.