Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Prifysgol Abertawe yn helpu i lunio’r dyfodol ar gyfer pobl ifainc Abertawe

Ddydd Iau 23 Mehefin cynhaliodd Campws y Bae Prifysgol Abertawe ŵyl gyrfaoedd fwyaf Cymru.

Daeth y ffair, a drefnwyd gan Gyrfaoedd Cymru mewn partneriaeth a thimau gyrfaoedd Recriwtio Myfyrwyr ac Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, â thros 2,000 o ddisgyblion Blwyddyn 10 o ledled ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ynghyd i archwilio eu dewisiadau ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod y digwyddiad, cynigiodd dros 100 o arddangoswyr, gan gynnwys cyflogwyr lleol, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau addysgol, wybodaeth, cyngor ac arweiniad i ddisgyblion o 16 o ysgolion uwchradd o Gymru.

Helpodd yr arddangosfeydd a’r sesiynau blasu rhyngweithiol a lenwodd adeilad y Neuadd Fawr a’r ardal gyfagos, i ddal dychymyg y disgyblion ysgol o Gymru wrth iddynt fynd ati i wneud eu dewisiadau bywyd pwysicaf hyd yma.

Ymhlith y gweithgareddau a’r digwyddiadau a gynhaliwyd yn ystod diwrnod yr ŵyl gyrfaoedd roedd gweithdai syrcas, cystadleuaeth tyrbin gwynt, a wal Batak a brofodd sgiliau cydlyniant rhwng llaw a llygad y disgyblion. Cafodd rhai gyfle i hyd yn oed roi cynnig ar dynnu DNA o fefus!

Mae’n sicr bod y ffair a fynychwyd gan y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James AC ac a agorwyd gan y Faeres, y Cynghorydd Sheila Penry a’i Chymar, Mr Glen Clarke, o Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, wedi cael effaith bwysig ar y disgyblion a ddaeth iddi.