Digwyddiadau Chwaraeon
Chwilio am y lleoliad perffaith i gynnal digwyddiadau chwaraeon? Nid oes lleoliad gwell na Phrifysgol Abertawe!
Mae ein cyfleusterau chwaraeon yn agos at bum milltir o draethau tywodlyd ac maent ymysg y cyfleusterau chwaraeon gorau mewn prifysgol yn y DU.
Mae’r lleoliad rhagorol hwn, ynghyd â’r cyfleusterau ardderchog a’n profiad helaeth o drefnu a chefnogi digwyddiadau a chystadlaethau chwaraeon ar bob lefel, wedi caniatáu i ni gynnal digwyddiadau Ewropeaidd a rhyngwladol o bwys.
Mae’n ein portffolio nodedig o ddigwyddiadau chwaraeon yn cynnwys Pencampwriaeth Athletau Ewrop yr IPC a Phencampwriaeth Cyffwrdd Ewrop FIT a Pencampwriaeth Rygbi Saith Bob Ochr Prifysgolion y Byd FISU.
Felly, p’un a ydych yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth bwysig, yn trefnu gwersyll hyfforddi neu gyfarfod clwb, neu os hoffech ymgysylltu â’r gymuned leol, bydd ein cyfleuster amlbwrpas, hyblyg, mewn lleoliad delfrydol rhwng canol Dinas Abertawe a phenrhyn Gŵyr yn sicrhau bod eich digwyddiad chwaraeon yn un cofiadwy.