Derbyniadau a Lletygarwch
Ym Mhrifysgol Abertawe rydym yn hynod lwyddiannus wrth gyflwyno derbyniadau a lletygarwch, a gwyddom sut i gynnal y dathliadau gorau.
Beth bynnag sy’n well gennych – canapés ar gampws Parc Singleton neu ginio mawreddog yn y Bae – mae gennym bopeth i wneud eich achlysur yn gofiadwy. Dros y blynyddoedd, rydym wedi helpu cannoedd o gleientiaid i greu argraff wych ar eu gwesteion gyda chiniawau mawreddog, derbyniadau diodydd, dawnsfeydd haf a brecwastau busnes.
Ein Campws newydd yn y Bae gyda’i Neuadd Fawr drawiadol yw’r lleoliad perffaith i gynnal parti. Mae Bar a Galerïau’r Neuadd Fawr yn cynnig golygfeydd godidog dros ehangder Bae Abertawe, sy’n golygu bod hwn yn un o’r lleoliadau gorau yn Abertawe am dderbyniad diodydd ar ddiwedd digwyddiad.
Yn ôl ym Marc Singleton, gellir trawsnewid ein Ffreutur yn Nhŷ Fulton (adeilad rhestredig Gradd II) yn lleoliad hyfryd i gynnal cinio mawreddog ynghyd â lle i DJ a llawr dawnsio ar gyfer dros 400 o westeion. Bydd ein tîm o staff arlwyo a digwyddiadau proffesiynol a phrofiadol yn gweithio gyda chi i ychwanegu’r elfennau arbennig hynny i wneud eich digwyddiad yn un cofiadwy.