Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Pam dylwn i gynnal cynhadledd?

Pam dylwn i gynnal cynhadledd?

Mae cynadleddau yn rhan hanfodol o fywyd busnes. Gallai cynnal un gynnig cyfle amhrisiadwy i gael nifer o fanteision i chi eich hun, i’ch sefydliad a’ch ymchwil yn eich maes, drwy agor drysau i: –

Rhwydweithio

Mae cynadleddau’n darparu cyfle prin i unigolion allweddol yn eich maes arbenigol ddod ynghyd o bob cwr o’r byd ac ymgynnull yn yr un lle, ar yr un pryd. Mae amgylchedd fel hwn yn darparu’r cyfle perffaith i rwydweithio, ffurfio partneriaethau a rhannu gwybodaeth â’ch cymheiriaid a phobl o ddiwydiannau cysylltiedig efallai nad ydych wedi cwrdd â nhw o’r blaen. Gallai profiad fel hwn roi mantais i chi yn eich gwaith, nawr ac yn y dyfodol.

Mae bod yn aelod o bwyllgor trefnu cynhadledd yn rhoi cyfle i chi ryngweithio ag arbenigwyr blaenllaw yn eich maes, ac mae cynadleddau preswyl yn cynnig cyfleoedd ychwanegol i rwydweithio. Mae ciniawau, achlysuron cymdeithasol gyda’r hwyr a chymdeithasu dros frecwast yn caniatáu amser i gryfhau’r cysylltiadau mewn modd na fyddai’n bosib y tu allan i amgylchedd y gynhadledd.

Gwell Gwybodaeth a Sgiliau

Byddai rhaglen gynhadledd gryf, sy’n llawn siaradwyr dylanwadol, gweithdai amrywiol, cyflwyniadau ysbrydoledig a safbwyntiau amgen, o werth hollbwysig i’ch set sgiliau eich hun. Drwy ddysgu gan arbenigwyr a sgyrsiau arloesol, gallwch rannu arfer gorau i helpu eich diwydiant i weithredu’n well.

Mae’r her wobrwyol o gynnal cynhadledd yn cynnig cyfle gwerthfawr i chi fireinio’ch sgiliau trefnu, rheoli a chyfathrebu, ar ben y rhai rydych yn eu defnyddio yn eich rôl feunyddiol.

Yn ogystal, cewch gyfle perffaith i rannu eich ymchwil a phrofi’ch canfyddiadau o flaen cynulleidfa hyddysg, sydd â diddordeb, y tu allan i’ch sefydliad eich hun, a allai ddatblygu, herio a rhoi ffocws i’ch gweithgarwch ymchwil yn y dyfodol.

Hwb i Effaith eich Ymchwil

Mae cynnal cynhadledd yn gyfle gwych i godi eich proffil a hyrwyddo eich canfyddiadau drwy arddangos eich ymchwil i eraill yn eich maes, sectorau cysylltiedig a’r cyhoedd.

Mae cynnal cynhadledd yn rhoi cyfle gwerthfawr a chyffrous i ymwneud â llunio rhaglen cynhadledd a chael cipolwg cyntaf ar bapurau yn y drafftiau cynnar – gallai eich digwyddiad helpu i ddylanwadu ar gyfeiriad eich maes yn y dyfodol.

Datblygiad Gyrfaol

Mae trefnu cynhadledd yn ychwanegiad gwych at eich CV. Gallai gryfhau a gwella parch eich cymheiriaid a’r diwydiant ehangach tuag atoch fel llais a meddyliwr blaenllaw yn eich maes.

Ar ben hyn, gallwch ddatblygu eich canfyddiadau drwy drafodaethau a thrwy ddysgu gan arbenigwyr eraill â blynyddoedd o brofiad – offeryn hollbwysig ar gyfer eich prosiectau yn y dyfodol.

Ariannol

Mae cynnal cynhadledd yn cynnig rhai buddion hirdymor gwych i’ch sefydliad. Byddai’n helpu i godi proffil eich sefydliad sydd, yn ei dro, yn ychwanegu at hygrededd y ceisiadau grant. Gellir defnyddio cynhadledd hefyd i ymchwilio i gyfleoedd ariannu ar gyfer prosiectau newydd.

Gellir defnyddio’r refeniw sy’n deillio o gynhadledd i ariannu gweithgareddau ac ymchwil a wneir gan eich sefydliad yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am sut gallech elwa o gynnal cynhadledd, siaradwch ag aelod o’n tîm digwyddiadau: