Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Sêr Rygbi 7 y Byd yn Cwrdd yn Abertawe

Mae’r cyffro’n cynyddu yma ym Mhrifysgol Abertawe wrth i ni baratoi i gynnal Pencampwriaeth Rygbi Saith Prifysgolion y Byd Ffederasiwn Chwaraeon Prifysgolion y Byd yn ein Pentref Chwaraeon Rhyngwladol sydd o safon fyd-eang.

Mae’r twrnamaint hwn a gynhelir bob dwy flynedd wedi bod yn teithio’n byd ers i’r bencampwriaeth gyntaf gael ei chynnal yn Tsieina yn 2004, ond hwn yw’r tro cyntaf erioed iddi gael ei chynnal yn y DU!

Bydd y bencampwriaeth yn dod ag 20 o dimau rygbi saith i Abertawe (10 tîm o ddynion a 10 tîm o fenywod), o 16 o genhedloedd gan gynnwys y Deyrnas Unedig, Tsieina, Siapan, Portiwgal, Namibia, Ffrainc, a Chanada. Ymhlith y newydd-ddyfodiaid i’r twrnamaint mae’r Weriniaeth Tsiec, Seland Newydd ac Awstralia!

Yn ystod y tri diwrnod o rygbi saith prifysgolion sydd o safon fyd-eang mae tîm dynion Prydain Fawr yn gobeithio cyflawni buddugoliaeth driphlyg trwy sicrhau ei drydedd fuddugoliaeth mewn rhes.

Bydd tîm menywod Prydain Fawr yn brwydro i ailennill ei deitl o 2012 ar ôl i Ganada ei guro yn ystod yn y twrnamaint diwethaf a gynhaliwyd ym Mrasil.

Derbyniwch yr holl wybodaeth ddiweddaraf am bencampwriaeth 2016 yma.

I dderbyn gwybodaeth bellach am ein cyfleusterau chwaraeon rhyngwladol sy’n fyd-enwog ac sydd wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon o broffil uchel yn ddiweddar gan gynnwys Pencampwriaeth Athletau IPC y Byd 2014 cliciwch yma.