Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Sut i gynnal cynhadledd

Edrychwch ar ein cyngor ar sut y gallwch gynnal cynhadledd:

Cyfranogi

Os ydych am gynnal cynhadledd, mae’n debygol iawn eich bod wedi mynychu nifer ohonynt eisoes fel cynadleddwr; dyma’r cam cyntaf. Mae mynychu cynadleddau’n ffordd werthfawr iawn o ddysgu, rhwydweithio a datblygu eich ymchwil eich hun, a fydd yn eich rhoi mewn sefyllfa dda i gynnal cynhadledd rywbryd.

Cael eich ethol

Gall unrhyw sefydliad wneud cais i gynnal cynhadledd, ar yr amod bod yr unigolion sy’n arwain y cais yn aelodau o bwyllgor y gymdeithas. Felly, gwirfoddolwch a rhowch gynnig ar gael eich ethol i’r bwrdd.

Paratoi Cais

Pan fydd y cyfnod am geisiadau’n agor, bydd angen i chi gyflwyno cais cryf, sy’n rhoi amcangyfrif o’r costau a’r elw. Wedyn, bydd tîm o’r gymdeithas yn dod i Abertawe i asesu ein haddasrwydd i gynnal cynhadledd. Bydd yr aseswyr yn ystyried popeth, o’r cyfleusterau, hygyrchedd a chynllunio, i’r digwyddiadau arfaethedig, y lleoedd cymdeithasol, y bwyd a’r amwynderau, yn ogystal â’r rhaglen gyffredinol. Mae’r tîm Datblygu Busnes ar gael i gynorthwyo wrth baratoi’r cais. Mae gennym brofiad helaeth o greu a chyflawni cynigion llwyddiannus, a gwyddom sut i arddangos Prifysgol Abertawe ar ei gorau.

Cynllunio, Cynllunio, Cynllunio!

A chofiwch ddechrau’n gynnar. Mae llawer o bethau i’w hystyried wrth gynnal cynhadledd: pwy fydd eich siaradwyr? Sut dylech lunio’r rhaglen? Ydych chi’n dewis cinio ffurfiol neu farbeciw ar y traeth? Mae cyfathrebu’n hanfodol. Ar ôl cyflwyno cais am y gynhadledd, dylai fod gennych weledigaeth eithaf clir o’r hyn rydych am ei gyflawni. Felly lluniwch gynllun manwl y gallwch ei rannu â’r timau perthnasol a fydd yn helpu i sicrhau bod eich cynhadledd yn llwyddiant, er enghraifft y timau clyweled ac arlwyo.

Gall mynd i’r afael â’r holl fanylion i warantu cynhadledd lwyddiannus deimlo’n dipyn o her ar y dechrau. Yn ffodus, ym Mhrifysgol Abertawe, mae ein tîm ymroddedig o Arbenigwyr Digwyddiadau wrth law i’ch helpu i ofalu am yr holl fanylion. Gweithiwch gyda nhw a manteisiwch ar eu harweiniad amhrisiadwy. I gael rhagor o wybodaeth, siaradwch ag aelod o’n tîm o Arbenigwyr Digwyddiadau.

Cofiwch

Unwaith y flwyddyn yn unig y cynhelir y rhan fwyaf o gynadleddau, felly gallai fod gennych rôl ganolog yng nghalendr y gymdeithas, sy’n sefyllfa wych i fod ynddi. Mae cynnal cynhadledd yn eich lleoliad cartref yn gyfle i ddangos beth mae eich tîm yn ei wneud yn y maes, felly mwynhewch y profiad.