Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Profwch Abertawe ar Gefn Beic!

Ar ôl mis dwys arall o godi arian trwy ymgyrch Cyllido Torfol, diolch i gymorth aruthrol gan staff y Brifysgol, myfyrwyr, busnesau lleol, cynghorau a chymuned hael Abertawe, ym mis Rhagfyr cododd Prifysgol Abertawe swm anhygoel o £100,000 ac ennill Her Prifysgolion Beiciau Santander a fydd yn gweld y cynllun rhannu beiciau cyntaf yng Nghymru yn dod i Abertawe yn y Gwanwyn.

 

Bydd pum gorsaf ddocio wedi’u lleoli mewn mannau allweddol ar draws y ddinas, gan ddechrau a gorffen ar ddau gampws y Brifysgol. Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer mynychwyr ein digwyddiadau, cynadleddau a’n hysgolion haf sy’n dymuno gwneud y mwyaf o’u hamser yn Abertawe trwy archwilio’r hyn sydd gan ein dinas wych i’w gynnig ar ddwy olwyn.

 

Mae Abertawe’n rhan o’r Llwybr Celtaidd a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sy’n ei gwneud yn ddinas berffaith i gael ei harchwilio ar gefn beic, gan gynnig llwybrau beicio sy’n cysylltu’r ddinas, tra hefyd yn cynnig golygfeydd syfrdanol o Fae Abertawe. Mae nifer o’n cynadleddwyr yn teithio i Abertawe ar gludiant cyhoeddus, felly mae’r cynllun rhannu beiciau yn gyfle ardderchog iddynt allu archwilio’r ddinas ar eu cyflymder eu hunain, gan hefyd gynnig manteision eraill o guro traffig y ddinas, a gwella iechyd a llesiant yn gyffredinol.

 

Gan gynnig 50 o feiciau mewn 100 o orsafoedd docio wedi’u lleoli mewn 5 hyb ar draws y ddinas, bydd byd Abertawe i gyd o’ch blaen chi!