Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Pam dewis Lleoliad Academaidd?

Gall dewis y lleoliad cywir fod yn un o’r heriau mwyaf o ran trefnu cynhadledd.

Mae angen llawer o fannau cwrdd, arlwyaeth ragorol ar gyfer nifer mawr o bobl a thechnoleg o’r radd flaenaf arnoch.

Felly, ydych chi wedi ystyried lleoliad academaidd?

Gan fodloni’r meini prawf hanfodol hyn, a chan ystyried bod o leiaf un ohonynt gan y rhan fwyaf o ddinasoedd, gallai hwn fod yr ateb perffaith i’ch anghenion o ran lleoliad. Dyma ein prif resymau pam mai prifysgol yw’r lleoliad gorau efallai nad ydych wedi’i ystyried ar gyfer eich digwyddiad neu’ch cynhadledd:

Opsiynau o ran Ardaloedd

Mae dewis yr ardal gywir i’ch digwyddiad yn allweddol. Os yw’r ystafell yn rhy fach, y lle yn orlawn ac mae eich cynadleddwyr yn brwydro dros seddi, ni fydd yn creu argraff dda o’ch sefydliad.  Yn yr un modd, gallai digwyddiad fod yn rhy fach i’r ystafell os oes gennych 20 o gynadleddwyr mewn ystafell ar gyfer 300 o bobl.

Gall prifysgol ddatrys hyn, am ei bod yn gyfuniad o nifer o leoliadau mewn un lleoliad cywasgedig. Gall lleoedd cyfarfod amlbwrpas Prifysgol Abertawe fodloni eich anghenion.  Boed bod angen darlithfa fawr arnoch chi, neu brif ardal cyfarfod llawn lai a llawer o ystafelloedd bach ar gyfer sesiynau rhwydweithio, beth bynnag yw natur eich digwyddiad gallwch ddod o hyd iddi ar gampws cyfleus prifysgol.

Technoleg o’r Radd Flaenaf

Mae darlithfeydd ac ystafelloedd dosbarth yn llawn technoleg glyweledol o’r radd flaenaf ac Wi-Fi cyflym iawn. Gall pethau fel hyn nid yn unig helpu i arddangos eich digwyddiad ond eich sefydliad fel un sy’n flaengar ac sy’n canolbwyntio ar brofiad y cwsmer. Mae’r fath ddarpariaeth yn warantedig ym Mhrifysgol Abertawe ac mae gan Awditoriwm Syr Stanley Clarke acwsteg o safon ryngwladol.

Mynediad i Ddiwydiant

Mae prifysgol yn sefydliad addysgol sy’n llawn gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau. Gall cynnal cynhadledd mewn prifysgol roi mynediad i chi i nifer o asedau i ategu at eich gwybodaeth a’ch ymchwil. Mae Prifysgol Abertawe’n un o’r prifysgolion ymchwil ddwys gorau a barnwyd bod dros 90% o’n hymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu o safon ragorol yn rhyngwladol, ac rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid a diwydiannau i ddatblygu hyn ymhellach.

Arlwyo i’r Lluoedd

Gall darparu’r arlwyo ar gyfer nifer fawr o gynadleddwyr fod yn heriol, a gall y costau gynyddu’n gyflym. Fodd bynnag, mae prifysgolion yn darparu arlwyo ar gyfer miloedd o fyfyrwyr a staff ag amrywiaeth o anghenion dietegol bob dydd felly maent yn gwybod sut i ddarparu bwyd maethlon o safon uchel ar gyllideb lem, faint bynnag o gynadleddwyr sydd gennych chi.

Cyfleusterau ar y Campws

Mae campws prifysgol yn lle i fyfyrwyr fyw ac, o ganlyniad, mae’n cynnwys yr holl fwynderau y mae eu hangen ar gynadleddwyr mewn lleoliad agos. O archfarchnadoedd, i lyfrgelloedd, banciau neu fariau, bydd popeth o fewn taith gerdded o leoliad y gynhadledd neu’r llety ar ein dau gampws.

Lleoliadau Canolog

Os bydd cynadleddwyr yn dymuno archwilio’r ardal leol yn ystod seibiau yn yr amserlen, mae’r mwyafrif o leoliadau academaidd wedi’u lleoli yng nghanol y ddinas gan ddarparu cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog i gyrchfannau poblogaidd ymhlith ymwelwyr.

Y tro nesaf y byddwch yn chwilio am leoliad i gynnal digwyddiad, beth am ystyried lleoliad academaidd? Bydd yn darparu popeth y mae ei angen ar eich digwyddiad.