Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Geiriau o Gyngor ar gyfer mynychu cynhadledd am y tro cyntaf

Ar ôl mynychu fy nghynhadledd gyntaf erioed yn ddiweddar, teg fyddai dweud bod gennyf rywfaint o gwestiynau ac ansicrwydd ynghylch yr hyn i’w ddisgwyl, beth oedd y disgwyliadau arnaf, a sut byddwn yn cael y budd mwyaf o’r profiad a oedd efallai’n amlwg i gynadleddwyr profiadol.

Rwyf wedi llunio geiriau o gyngor o’m profiad fel cynadleddwr tro cyntaf a gobeithiaf y bydd yn eich helpu gyda’ch profiad chi o fynychu cynhadledd am y tro cyntaf.

Cadwch eich lle yn gynnar

Cyn i chi wneud unrhyw beth arall, bydd angen i chi sicrhau eich bod wedi cadw lle yn y gynhadledd! Bydd nifer gyfyngedig o leoedd ar gael felly peidiwch â threulio gormod o amser yn penderfynu a ddylech ei mynychu ai peidio neu efallai y byddwch yn colli’r cyfle.

Mae’r cyngor hwn hefyd yn berthnasol ar gyfer trefnu eich ffordd o deithio – mae’n annhebygol (er yn gyfleus iawn) y caiff eich cynhadledd ei chynnal ychydig i lawr y ffordd, felly sicrhewch eich bod yn cadw lle o flaen llaw i warantu eich sedd ac i osgoi sefyll yn lletchwith yn eil y trên am oriau, gan orfod symud eich bagiau bob tro y daw’r troli arlwyo neu fod angen i deithiwr arall adael y trên.

Pryd dylwn i gyrraedd?

Er nad yw’r syniad o aberthu noson ar eich soffa er mwyn teithio i leoliad eich cynhadledd yn apelio, os oes gennych daith sylweddol o’ch blaen i gyrraedd eich cyrchfan, byddwn yn sicr yn argymell eich bod yn cyrraedd y noson flaenorol os oes modd.  Heb os bydd cynadleddwyr eraill yn yr un cwch â chi felly gall cyrraedd y noson cyn eich cynhadledd hefyd roi cyfle ardderchog i rwydweithio a chwrdd â phobl eraill sy’n mynychu’r gynhadledd.

Bydd diwrnod y gynhadledd yn brysur a bydd llawer o wybodaeth i’w phrosesu felly teimlo’n ymlaciedig a ffres fydd y ffordd orau i’w chychwyn. Ni fyddwch yn dymuno bod hanner ffordd trwy daith ar drên y cychwynnoch chi am 5am, yn llawn straen wrth sylweddoli eich bod wedi anghofio rhywbeth pwysig wrth ruthro i ddal y trên ar amser, neu gyrraedd yn hwyr oherwydd signalau’n methu ac oedi oriau brig. Bydd aros dros nos hefyd yn rhoi cyfle i chi archwilio dinas a diwylliant newydd, ac mae pawb yn dwlu ar dreulio noson mewn gwesty!

Paratowch

Dylech fod wedi derbyn copi o’r agenda neu’r amserlen cyn y gynhadledd. Dylech ymgyfarwyddo â hi a meddwl am unrhyw bwyntiau allweddol rydych chi’n gobeithio eu dysgu mewn seminarau penodol, neu’r diwrnod yn gyffredinol. A oes unrhyw sesiynau grŵp yr hoffech eu mynychu? A oes cwestiwn y dymunech ei ofyn i’r cyflwynydd? Po fwyaf y byddwch yn paratoi, po fwyaf y cewch o’r digwyddiad. Cynhelir y mwyafrif o gynadleddau unwaith y flwyddyn yn unig, felly dyma’ch cyfle i dderbyn cymaint o wybodaeth â phosib ac i drafod eich syniadau.

Yr hyn dylech chi ei bacio

Ar wahân i’ch hanfodion dros nos, mae’n bwysig eich bod yn treulio rhywfaint o amser yn meddwl am yr hyn dylech chi fynd gyda chi fel nad ydych chi’n anghofio unrhyw beth.

Er bydd trefnwyr y gynhadledd siŵr o fod yn darparu pen a phapur a byddant mwy na thebyg yn rhannu’r cyflwyniad ar ôl y gynhadledd, gallwch ddod â’ch llyfr nodiadau a’ch pen eich hun (yn ogystal â rhai sbâr!) Os ydych chi’n awyddus i rwydweithio a chreu cysylltiadau newydd, dewch â’ch cardiau busnes hefyd.

Mae’n werth pacio cwpl o wisgoedd rhag ofn y profwch ddamwain wrth fwyta cinio neu wrth yfed coffi – y peth olaf y bydd ei angen arnoch yw cuddio’r staen brecwast ar eich crys y tu ôl i’ch rhaglen drwy’r dydd!

Yn dibynnu ar osodiad ac agenda eich cynhadledd, gallech dreulio llawer o amser ar eich traed neu’n cerdded o amgylch, felly mae esgidiau cyfforddus yn angenrheidiol.

Dewch â rhywbeth i’w wneud ar y trên

Oes adroddiad rydych chi wedi bod yn bwriadu ei deipio neu erthygl rydych chi wedi bod yn osgoi ei darllen am fod rhywbeth arall pwysicaf wedi codi a thynnu eich sylw?  Y trên yw’r amser i chi fynd i’r afael ag ef! Meddyliwch o flaen llaw a defnyddiwch yr amser di-dor yn ddoeth – bydd hefyd yn gwneud i’r amser basio’n gyflymach. Peidiwch â defnyddio rhywbeth y mae angen y rhyngrwyd amdano oherwydd gall cysylltiad â’r rhyngrwyd fod yn anghyson!

Byddwch yn hyderus

(Neu o leiaf gallwch esgus eich bod yn hyderus). Gall mynd i mewn i ystafell sy’n llawn gweithwyr proffesiynol yn eich maes fod yn frawychus. Efallai y byddwch yn poeni y bydd pobl yn gofyn cwestiynau cymhleth neu na fydd gennych chi unrhyw beth perthnasol i’w gyfrannu i drafodaethau grŵp, fodd bynnag, ceisiwch roi’r amheuon hyn i gefn eich meddwl. Mwy na thebyg, bydd cynadleddwyr eraill yn teimlo’r un peth.

Er nad oes unrhyw bwysau ar unigolyn i siarad os nad yw’n dymuno ei wneud, mae trafod rhywbeth rydych chi wedi bod yn gweithio arno neu’n ymdrechu i’w gyflawni gyda phobl newydd yn gyfle gwych i dderbyn barnau a mewnwelediadau ffres. Hefyd mae teimlo eich bod wedi helpu rhywun yn deimlad gwych – cefais fy synnu mewn ffordd dda pan rannais air o gyngor defnyddiol yn ystod trafodaeth grŵp bach a chafodd ei ysgrifennu i lawr gan gynadleddwyr eraill fel rhywbeth y gallent ei weithredu.

Yn olaf, os ydych chi wedi mynychu’r gynhadledd gyda chydweithiwr, defnyddiwch yr amser cinio fel cyfle i eistedd gyda rhywun newydd, i greu cysylltiadau newydd ac i fwynhau’r profiad.

Gwnewch nodiadau

Y gobaith yw y bydd y rhaglen yn llawn seminarau, sgyrsiau a gweithdai y maent mor berthnasol ar gyfer eich gwaith mae’n teimlo fel eu bod wedi’i hysgrifennu ar eich cyfer chi. Fodd bynnag hyd yn oed os nad yw rhai o’r pynciau dan sylw yn uniongyrchol berthnasol, gwrandewch arnynt, gwnewch nodiadau a sugnwch gymaint ag y gallwch – pwy â ŵyr beth fydd yn digwydd yn y dyfodol neu ba brosiect a fydd yn glanio yn eich mewnflwch fore Llun. Gallwch hyd yn oed derbyn gair o gyngor a fyddai’n ddefnyddiol iawn i gydweithiwr arall a byddwch chi’n ddiolchgar iawn eich bod wedi ysgrifennu’r nodiadau hynny.

Mwynhewch!

Mwynheais yn fawr y profiad o fynychu fy nghynhadledd gyntaf a chefais y cyfle i glywed gan arbenigwyr ymhellach i lawr y lôn yn eu gyrfaoedd yn werthfawr iawn, yn ogystal â’r cyfle i ddeall sut mae sefydliadau eraill yn gweithredu.  Rwyf yn eithaf newydd i’m swydd o hyd, felly po fwya’r cyfleoedd i rwydweithio, dysgu a datblygu gorau oll – edrychaf ymlaen at y gynhadledd nesaf!

Un peth arall i gloi

Wrth gwrs mae pob cynhadledd yn wahanol, ond o’m profiad, byddwch yn barod am ddigonedd o luniaeth! Siwr o fod es i ychydig yn or-gyffrous gan y symiau sylweddol o goffi a’r bisgedi newydd eu pobi am ddim fy mod wedi suo fy hun drwy’r sesiwn yn syth ar ôl egwyl y bore…