Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Cydweithio 2016

Ddydd Mercher 19 Hydref, dychwelodd Cydweithio i Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe.

Mae’r digwyddiad undydd hwn, a gynhaliwyd gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, dan nawdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn ymroddedig i ddathlu a hyrwyddo cydweithio a phartneriaethau rhwng diwydiant, y gymuned academaidd, Llywodraeth a byrddau iechyd, a chafodd ei agor gan Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies, a’r Athro Keith Lloyd, Deon a Phennaeth yr Ysgol Feddygaeth.

Yn y digwyddiad proffil uchel hwn, daeth cynadleddwyr o’r rhanbarth a’r tu hwnt ynghyd am y dydd i archwilio’r holl newyddion a datblygiadau diweddaraf ym maes y gwyddorau bywyd.

Cynhaliwyd y rhaglen lawn o sgyrsiau yng Nghanolfan Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton Prifysgol Abertawe, a thrafodwyd amrywiaeth helaeth o bynciau, gan gynnwys:

  • Dinas-ranbarth Bae Abertawe: Creu’r Dyfodol yn Ne-orllewin Cymru
  • Cysylltu – Cyfathrebu – Cydweithio – Creu
  • Sgwrs: Cyflwr Iechyd a Lles yn Ne-orllewin Cymru yn y Dyfodol

Roedd Ffreutur Tŷ Fulton yn lleoliad delfrydol ar gyfer arddangosfa’r digwyddiad a chynhaliwyd sesiynau yn archwilio amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys ymchwil ac arloesi, iechyd a lles, ymgysylltu â busnes a sgiliau’r gweithlu mewn lleoliadau allweddol ar draws y campws, megis y Grove ac ILS1 a 2.