Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Gwneud y mwyaf o’ch lleoliad

Wrth ddechrau cynllunio’ch digwyddiad, mae’n siŵr y cafodd amser gwerthfawr ei dreulio ar benderfynu’n fanwl ar y gyrchfan berffaith. Canol dinas fywiog, lleoliad gwledig mwy heddychlon, neu rywbeth rhwng y ddau. Neu efallai bod eich sefydliad wedi’i leoli mewn cymdogaeth rydych chi’n teimlo bod ganddi lawer i’w gynnig ac rydych chi am rannu hynny â’ch cymheiriaid pan fyddant yn dod i’ch digwyddiad.

Pa reswm bynnag sydd gennych chi am ddewis y lleoliad, unwaith eich bod chi wedi gwneud hynny, mae’n rhwydd talu’ch holl sylw at lenwi’ch agenda gyda seminarau, cyfleoedd rhwydweithio a chyflwyniadau siaradwyr gwadd cyn ciniawa ar y safle a dweud nos da i’ch gwesteion. Ymhen dim, mae’r gynhadledd wedi dod i ben ac mae’r rheiny a ddaeth wedi mynd adref, gan weld ddim llawer yn fwy na waliau mewnol y lleoliad y treulioch chi gymaint o amser yn pendroni amdano a’i ddewis.

Mae profiadau cyrchfan yn dod yn fwyfwy pwysig i drefnwyr digwyddiadau, ac mae busnesau am i’w gwesteion, eu cydweithwyr a’u cysylltiadau weld ychydig yn fwy o’r ardal leol o amgylch y lleoliad a ddewiswyd. Maent yn cymryd amser oddi cartref felly beth am eu helpu i wneud y mwyaf ohoni drwy gael profiad o ddiwylliant newydd neu, yn ddigon syml, mynd â nhw i atyniad twristaidd maent wedi gweld cynifer o luniau ohono?

Ffordd hawdd o wneud hyn yw drwy ychwanegu elfen ymweld â safle at raglen eich digwyddiad. A oes rhywbeth unigryw am y gyrchfan rydych chi wedi’i dewis y gallwch ei rannu â’ch gwesteion?

Mae trefnwyr digwyddiadau sy’n ymweld â Phrifysgol Abertawe wedi cynnig amrywiaeth o weithgareddau hamdden o amgylch y ddinas, gan gynnwys; Profiadau ciniawa Cymreig lle mae gan westeion y cyfle i gael blas ar fwyd lleol, ymweld â distyllfa Penderyn yn Aberhonddu, te gyda’r prynhawn yn y Mwmbwls, miri’r ŵyl yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau, cinio nos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac, yn fwyaf poblogaidd, teithiau tywys o amgylch Penrhyn Gŵyr godidog sy’n denu twristiaid o bedwar ban byd.

Gallwch chi hyd yn oed gynnig noson ychwanegol am bris ffafriol er mwyn i gynadleddwyr gael cyfle i ddod i anabod yr ardal o amgylch eich lleoliad dewisedig ychydig yn fwy. Os hoffech chi i bobl ddod i’ch digwyddiad eto’r flwyddyn nesaf, byddant yn ei gofio am y gweithgareddau hamdden neu’r amser cymaint ag am y rhaglen.

Mae cefnogi diwylliant ac economi eich dinas gartref hefyd yn beth gwych i’w wneud, a gall helpu i amlygu’ch sefydliad, eich lleoliad neu’ch dinas fel cyrchfan sy’n ffynnu.