Digwyddiadau Eco-gyfeillgar
Mae Prifysgol Abertawe’n falch iawn o fod yn y 9fed safle allan o 150 o sefydliadau yng ‘Nghyngrair Werdd y Prifysgolion’, a Ni yw’r Brifysgol uchaf yng Nghymru yn y tabl, gan ein gwneud yn un o’r Prifysgolion mwyaf cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig.
Nid yw’n syndod, felly, fod cynaliadwyedd wrth galon popeth yr ydym yn ei wneud ar draws y Brifysgol, felly rydym wedi llunio rhestr o 10 peth syml y gallwch chi eu gwneud i helpu i wneud eich digwyddiad yn wyrddach:
1. Meddyliwch yn Wyrdd – Sicrhewch fod cynaliadwyedd ar flaen eich meddwl wrth i chi gychwyn ar y broses o drefnu eich digwyddiad a bod aelodau eraill eich pwyllgor yn barod ac wedi ymrwymo i’ch agenda gwyrdd.
2. Teithio Cynaliadwy – Mae’n hawdd cyrraedd ein dau gampws ar y trên, taith fer o orsaf drenau Abertawe, a gall cynadleddwyr sy’n myncyhu cynhadledd ym Mhrifysgol Abertawe elwa o ostyngiad o 20%oddi ar bris eu tocyn trên wth deithio gyda Great Western Railway (dysgwch fwy yma).
Ar gyfer cynadleddwyr sy’n teithio o leoliadau tebyg, beth am hyrwyddo rhannu car? Yn ychwanegol at hyn, gennym ein cynllun rhannu beiciau ein hunain – y cyntaf o’i fath yng Nghymru – y ffordd berffaith i gynadleddwyr archwilio’r ddinas wrth guro traffig y ddinas gan ddefnyddio ein llwybrau beicio bendigedig.
3. Agendâu Electronig – gallwch leihau defnydd o bapur yn eich digwyddiad trwy ddarparu dogfennau yn electronig yn hytrach na’u hargraffu – mae’n anochel y bydd gennych wybodaeth i’w rhannu â’chcynadleddwyr, ond gallwch wneud hynny o flaen llaw drwy e-boost, neu drwy ap pwrpasol ar gyfer y gynhadledd y gall ein tîm Gwasanaethau Digwyyddiadau eich helpu i’w ddatblygu.
4. Lleihau’r Tanwydd – gallwch leihau pŵer yn eich llety drwy ddiffodd goleuadau wrth adael ystafell, cadw’r gwres yn isel a gadael tyweli i’w golchi tan y bydd wir angen eu golchi.
5. Arlwyo’n Ymwybodol – Mae gan is-adran Arlwyo’r Campws y Brifysgol ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd. Rydym yn ymdrechu i gynhrychu bwyd ffres, iachus a chynaliadwy, gan ddefnyddio cynhwysion sy’n amgylcheddol gyfrifol, sydd â tharddiad moesegol a lleol – pa ffordd well o ymdrochi eich hun mewn diwylliant lleol na thrwy eich blasbwyntiau?
6. Cael gwaraed ar ddeunyddiau untro – Defnyddiwch lestri yn hytrach na chwpanau papur ar gyfer eich egwyl te a choffi. Ar y campws, annog pobl i ddefnyddio cwpanau y gellir eu hailddefnyddio.
7. Ailgylchwch eich ysbwriel – Mae nifer o finiau ailgylchu gwastraff o amgylch y ddau gampws lle y gall cynadleddwyr gael gwared ar eu hysbwriel.
8. Dawn Leol – Wrth ddewis adloniant ar gyfer eich digwyddiad, ymgygsylltwch ag artistiaid lleol nad oes yn rhaid iddynt deithio’n bell i gyrraedd eich digwyddiad, mae hyn hefyd yyn taro’r sbotolau ar ddawn a diwylliant lleol – sef rhywbeth y mae gennym lu ohono yma yn Abertawe.
9. Dyrannwch yn Gywir – Sicrhewch fod y rhestrau cynadleddwyr wedi’u cadarnhau’n fuan er mwyn osgoi gor-arlwyo’r digwyddiad, yn nhermau bwyd ac unrhyw allbrintiadau sy’n cael eu dosbarthu.
10. Dychwelyd ac Ailddefnyddio – Ar ddiwedd y digwyddiad gofynnwch i gynadleddwyr ddychwelyd eu labeli enw er mwyn gallu ailddefnyddio’r casys mewn digwyddiad arall, gosodwch arwyddion amlwg i ddangos y mannau i gynadleddwyr eu gadael.
Dysgwch fwy am ymrwymiad Prifysgol Abertawe i gynaliadwyedd yma.