Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Mae Prifysgol Abertawe’n cynnig popeth sydd ei angen ar gyfer eich cynhadledd neu’ch digwyddiad. Gan gynnig ystod eang o ofodau i gynnal cyfarfodydd neu ddigwyddiadau ar draws dau gampws glan môr prydferth, rydym yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer eich cynhadledd yn Abertawe.

Yn ogystal â darparu rhai o’r lleoliadau gorau ar gyfer cynnal cynadleddau a digwyddiadau yng Nghymru, mae Prifysgol Abertawe hefyd yn cynnig arlwyo ardderchog ar gyfer digwyddiadau ac ystod o gyfleusterau ar y safle i’ch cynadleddwyr eu mwynhau; gan gynnwys llety ar y safle i gynadleddwyr rhwng mis Mehefin a mis Medi a thîm o staff Gwasanaethau Digwyddiadau ymrwymedig sydd â degawdau o brofiad ym maes rheoli a chefnogi digwyddiadau.

Darganfyddwch fwy am ein diweddariadau Covid-19 yma.

Cynadleddau

Mae gennym flynyddoedd o brofiad o groesawu cynadleddau, digwyddiadau ac arddangosfeydd i dde-orllewin Cymru. Beth bynnag y bo anghenion eich digwyddiad, gallwn eu diwallu. Ceir rhagor o wybodaeth yma

Play button

Derbyniadau a Lletygarwch

Ni waeth a ydych yn cynnal brecwast busnes bach neu'n trefnu cinio mawreddog pwysig, rydym ymysg y lleoliadau mwyaf blaenllaw yn Abertawe ar gyfer cynnal digwyddiadau, a gallwn sicrhau y bydd eich achlysur yn un cofiadwy, gyda bwyd o'r radd flaenaf, sylw i fanylion a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.

Play button

Digwyddiadau Chwaraeon

Mae ein cyfleusterau chwaraeon gyda'r gorau yng Nghymru. Cliciwch yma i weld sut gallwn eich helpu i gynnal digwyddiadau chwaraeon penigamp yn Abertawe.

Play button

Grwpiau a Chyrsiau

Mae Abertawe wedi bod yn ddewis cyrchfan cyntaf ar gyfer grwpiau astudio a gwersylloedd haf ers blynyddoedd. Darllenwch fwy am ein cyfleusterau campus a'n llety gwerth arbennig ar gyfer grwpiau yn Abertawe, yn agos at Benrhyn Gŵyr.

Play button